Gobaith y bydd Wylfa Newydd yn arwain at godi cannoedd o dai yn Rhosgoch
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Gobaith creu llety i gannoedd yn Rhosgoch

22 Chwefror 2017 Diweddarwyd 22:08 GMT

Adroddiad Sion Tecwyn ar y gobeithion y bydd Wylfa Newydd yn creu llety i gannoedd yn Rhosgoch.

Mae hen safle Shell yn Rhosgoch, sydd rhyw dair milltir o Amlwch, wedi bod yn wag ers blynyddoedd.

Yn y 70au a'r 80au roedd y lle'n derbyn olew o'r tanceri enfawr oedd yn dod i borth Amlwch.