Coran Bogue, 23, fu farw wedi gwrthdrawiad lori Sir Fynwy

  • 23 Chwefror 2017
A4810 Image copyright Google
Image caption Digwyddodd y gwrthdrawiad yn ardal yr A4810

Mae Heddlu Gwent wedi cyhoeddi enw dyn fu farw yn dilyn gwrthdrawiad yn Sir Fynwy ddydd Mercher.

Bu farw Coran Bogue, 23 ac o Gasnewydd, yn y digwyddiad ar yr A4810 ger bragdy Magwyr am tua 05:50.

Bu farw yn fan a'r lle wedi'r gwrthdrawiad rhwng Vauxhall Corsa a lori.

Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth.

Straeon perthnasol