Cyhuddo dyn o Dredegar o lawrlwytho deunydd terfysgol IS

Old Bailey Image copyright Thinkstock
Image caption Bydd yr achos yn cael ei glywed yn llys yr Old Bailey fis Mehefin

Mae dyn 23 oed o Dredegar wedi ei gadw yn y ddalfa ar gyhuddiad o lawrlwytho deunydd am y Wladwriaeth Islamaidd (IS).

Cafodd Nathan Saunders ei arestio ym mis Chwefror am fod gyda dogfennau sydd yn "debygol o fod yn ddefnyddiol ar gyfer cyflawni neu baratoi digwyddiad terfysgol".

Ymddangosodd i gadarnhau ei enw yn Llys yr Old Bailey ddydd Iau.

Mae'n wynebu pum cyhuddiad o dan Deddf Terfysgaeth 2000.

Bydd Mr Saunders yn ymddangos o flaen llys yr Old Bailey ym mis Mehefin ac mae disgwyl i'r achos bara wythnos.