Storm Doris: Mwy o ddifrod i bier Bae Colwyn

  • 23 Chwefror 2017
Pier Bae Colwyn Image copyright Cyngor Conwy
Image caption Gwelwyd rhagor o ddifrod i'r pier yn sgil Storm Doris ddydd Gwener

Mae'r Aelod Cynulliad dros Orllewin Clwyd wedi galw ar Gyngor Conwy i ddatgymalu pier Bae Colwyn cyn i fwy o ddifrod gael ei achosi.

Dywedodd Darren Millar AC bod angen i'r cyngor "weithredu'n sydyn" yn dilyn difrod pellach i'r pier ddydd Iau o ganlyniad i storm Doris.

Roedd Cyngor Conwy ac Ymddiriedolaeth Fictoraidd Colwyn wedi datgan eu bwriad i achub rhannau o'r pier sydd o werth hanesyddol, eu catalogio a'u cadw rhag ofn y bydd penderfyniad yn y dyfodol i ail-adeiladu'r strwythur rhestredig.

'Dim opsiwn'

"Mae'r storm yn un o'r gwaethaf i daro gogledd Cymru yn ddiweddar felly tydi mwy o ddifrod i strwythur pier Bae Colwyn ddim yn fy synnu," meddai Mr Millar.

"Unwaith bydd y storm wedi setlo dylai'r cyngor weithredu'n sydyn a threfnu i ddatgymalu gweddill y pier cyn iddo gael ei ddifrodi ym mhellach.

"Tydi gadael y pier yn y cyflwr yma ddim yn opsiwn."

Image caption Mae Darren Millar AC yn galw ar Gyngor Conwy i ddatgymalu pier Bae Colwyn yn syth