Darlithydd o Gymru yn trafod yr eclips yn Namibia

Haul Image copyright ESA

Mae darlithydd o Gymru wedi teithio i Namibia er mwyn trafod yr eclips fydd yn digwydd yno ddydd Sul.

Mae disgwyl i'r eclips o'r haul effeithio ar rannau o dde Affrica a De America.

Yn ôl Dr Rhodri Evans, o Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd dyma fydd un o'r rhai mwyaf arwyddocaol yn y rhanbarth yn y ganrif hon.

"Yr eclips hwn ar 26 Chwefror 2017 yw un o'r chwech mwyaf cyflawn o brifddinas Namibia, Windhoek, yn ystod y ganrif hon," meddai.

"Gwelwyd nifer o eclipsau o Windhoek eisoes y ganrif hon, ond ar ôl yr un ym mis Mehefin 2001, dyma'r agosaf eto at amguddio'r haul yn llwyr."

Mae Dr Evans yn Affrica fel rhan o gynllun Phoenix, sef cynllun lle mae Prifysgol Caerdydd a Namibia yn cydweithio ar draws sawl adran.

Y nod ydy cryfhau gallu Prifysgol Namibia ac mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig hyfforddiant ac yn rhannu adnoddau.

Does dim disgwyl eclips ym Mhrydain tan 2026 ac un rhannol 'dwfn' fydd hwn. Ym mis Medi 2090 mae disgwyl yr un llawn nesaf.

Ond mae'r profiad o'i weld yn anhygoel meddai Dr Evans.

"Mae eclipsau'r haul yn un o ryfeddodau mwyaf natur.

"Mae gweld dydd yn troi'n nos o fewn ychydig funudau, fel sy'n digwydd mewn eclips llawn, yn olygfa fydd yn aros gyda rhywun am weddill ei oes."