Tywysog Charles i ymweld ag elusennau yng Nghymru

Charles
Image caption Y Tywysog Charles yn ystod ei ymweliad â Chymru

Bydd y Tywysog Charles yn clywed gan ddisgyblion ysgol am addysg newid hinsawdd, yn ogystal ag ymdrechion i warchod gwartheg prin, yn ystod ymweliad â Chymru ddydd Gwener.

Mae disgwyl i'r tywysog ymweld ag elusen Maint Cymru yng Nghwmbrân, ac agor swyddfeydd newydd cwmni rheoli risg Alcumnus yng Nghaerdydd.

Bydd hefyd yn dysgu am ymdrechion yn Llandeilo i warchod Gwartheg Gwyn y Parc, sydd yn frîd prin.

Daw hynny yn dilyn ymweliad Duges Caergrawnt i Dorfaen a Chaerffili ddydd Mercher yn ei rôl fel noddwraig elusennau plant.

Image copyright Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol/Huw John
Image caption Mae Gwartheg Gwyn y Parc wedi pori ar dir ger Llandeilo ers dros 1,000 o flynyddoedd

Straeon perthnasol