Cynllun yr M4 am 'ddinistrio safle nythu' ar gyfer garanod

Garanod Image copyright RSPB
Image caption Mae'r RSPB yn dweud y gallai'r draffordd newydd achosi bygythiad i'r garanod

Mae wedi dod i'r amlwg y bydd y cynllun sydd dan ystyriaeth i uwchraddio traffordd yr M4 ger Casnewydd yn dinistrio'r safle nythu cyntaf yng Nghymru ar gyfer garanod ers dros 400 mlynedd.

Honnodd yr RSPB fod y canfyddiad, sydd wedi'i nodi mewn adroddiad ecolegol gan Lywodraeth Cymru, yn un enghraifft ymysg nifer o effaith niweidiol y datblygiad posib ar yr amgylchedd.

Bydd ymchwiliad cyhoeddus ynglŷn â'r cynlluniau yn agor fore Mawrth ac yn para am bum mis.

Mae Llywodraeth Cymru yn mynnu bod y prosiect yn hanfodol, gyda thagfeydd ar yr M4 yn atal twf yn yr economi.

'Dafydd yn erbyn Goliath'

Paratoi at "frwydr Dafydd yn erbyn Goliath" mae grwpiau amgylcheddol.

Mae'r llwybr y mae'r llywodraeth yn ei ffafrio ar gyfer y ffordd yn torri drwy gorstiroedd hynafol Gwastadeddau Gwent, sy'n hafan i bob math o fywyd gwyllt.

Yn ogystal â phlanhigion prin, pryfed a mamaliaid dŵr fel llygod cwta a dyfrgwn, y rhywogaeth ddiweddara' i gael ei weld yno yw'r garan neu'r crëyr llwyd.

Yn ystod y gwanwyn llynedd fe hedodd pâr o'r adar o Wlad yr Haf i nythu ar y gwastadeddau, gan ddeor y cyw Cymreig gynta' ers dros 400 mlynedd.

Image caption Os bydd y cynlluniau M4 yn digwydd y disgwyl yw y bydd Llywodraeth Cymru yn prynu cyfran o'r warchodfa natur yma ym Magwyr

Ffrwyth llafur prosiect ddechreuodd yn 2010 oedd hyn, gyda'r RSPB wedi bod yn ailgyflwyno'r adar i ardal o wlypdir ger Langport yng Ngwlad yr Haf.

Yn ôl Damon Bridge, rheolwr y prosiect, mae ganddo "bryderon sylweddol" am brosiect ffordd osgoi'r M4, gan ychwanegu y byddai'n cael sgil-effaith anochel ar yr adar prin, sydd angen "amgylchedd tawel iawn, lle na chân nhw eu tarfu."

"Fe ddiflannodd yr adar yma yn llwyr o Brydain, rhywbryd yn y 1600au.

"Mae'u gweld nhw yn lledu yn ôl i'w hen gynefinoedd yn tanlinellu pwysigrwydd gwarchod eu gwlypdiroedd - fel Gwastadeddau Gwent."

"Os oes gyda chi garanod yn ôl fel rhan o'r tirlun - gall y tirlun hwnnw ond a bod yn un iach, sy'n cynnal bioamrywiaeth," meddai.

Image caption Mae grwpiau amgylcheddol yn dweud mai brwydr "Dafydd yn erbyn Goliath" fydd hon

Ychwanegodd Daniel Jenkins-Jones, Pennaeth Materion Cyhoeddus yr elusen, ei bod hi'n "dorcalonnus bod 'na fygythiad mawr i'r adar ar ôl yr holl ymdrech o'u cael nhw yn ôl i nythu yng Nghymru."

"Mae'r ffaith bod Llywodraeth Cymru hyd yn oed yn ystyried rhoi'r M4 drwy'r cynefin amhrisiadwy yma yn dangos diffyg meddwl am genedlaethau'r dyfodol," meddai.

'Torcalonnus'

Bydd llu o gyrff amgylcheddol yn rhoi tystiolaeth i'r ymchwiliad cyhoeddus, fydd yn craffu ar gynlluniau'r llywodraeth cyn llunio argymhellion.

Dywedodd Mike Webb o elusen Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent na ddylai'r cynllun fod wedi cael cyrraedd mor bell ag ymchwiliad cyhoeddus yn y lle cynta'.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno gorchymyn prynu gorfodol i'r elusen er mwyn hawlio cyfran o'u gwarchodfa natur ym Magwyr ar gyfer adeiladu'r ffordd.

"Mae'n dorcalonnus y gallai'r fath draffordd ddinistrio cymaint o dir, yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol drwy lygru dŵr ac aer," meddai.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Mike Webb

"Mae'n frwydr Dafydd yn erbyn Goliath i ni mewn ffordd.

"Elusen fach ydyn ni, ond byddwn ni'n taflu popeth at yr ymchwiliad i wneud yn siŵr bod ein neges ni yn cael ei chlywed."

Mae Llywodraeth Cymru yn addo mesurau i ddigolledi byd natur ac yn dadlau y byddai atal tagfeydd yn lleihau allyriadau carbon a llygredd aer.

Craffu ar y cynlluniau

Ond dadlau bod pwysigrwydd y tir, sydd wedi'i warchod dan y gyfraith drwy gyfres o Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Eithriadol, yn golygu na fyddai'n bosib cyflwyno mesurau eraill fyddai'n gwneud yn iawn am y difrod, mae Mr Webb.

"Mae'n gynllun hunllefus a byddwn ni'n trio'n gorau glas i annog Gweinidog yr Economi i neud y penderfyniad iawn er budd ein plant a phlant ein plant."

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y byddai'r ymchwiliad cyhoeddus yn golygu bod modd craffu mewn fforwm agored ar eu cynlluniau a'r mesurau i ddigolledi'r amgylchedd.

"Bydd hynny'n gadael i arolygwyr annibynnol benderfynu prun ai hyn yw'r ateb cynaliadwy, hirdymor ar gyfer y problemau sylweddol sydd wedi'u cysylltu â'r fynedfa yma i Gymru."

"Bydd canlyniad yr ymchwiliad yn hysbysu ein penderfyniad terfynol prun ai i fwrw ati â'r gwaith adeiladu ai peidio."