Neil Warnock i arwyddo cytundeb newydd gyda Chaerdydd

  • 24 Chwefror 2017
Neil Warnock Image copyright Huw Evans picture agency

Mae rheolwr Caerdydd, Neil Warnock wedi dweud ei fod yn edrych ymlaen at y tymor nesaf ar ôl cytuno i ymestyn ei gytundeb gyda'r clwb.

Roedd cytundeb presennol Warnock, 68, yn dod i ben yn yr haf ond mae disgwyl iddo nawr arwyddo am flwyddyn ychwanegol.

"Fe fyddai yma cyn belled â bod y cefnogwyr fy eisiau i yma," meddai wrth BBC Sport.

Roedd cyn-reolwr Leeds, QPR a Crystal Palace wedi gofyn am fwy o sicrwydd ynglŷn â chynlluniau'r clwb ar gyfer cryfhau'r garfan.

Pan gafodd Warnock ei ddewis i olynu Paul Trollope ym mis Hydref y llynedd, roedd y tîm un safle o waelod y Bencampwriaeth, ond maen nhw bellach yn hanner uchaf y tabl.

Mae disgwyl i'r staff cynorthwyol Kevin Blackwell, Ronnie Jepson ac Andy Dibble hefyd ymestyn eu cytundebau.