Arweinydd Cyngor Caerffili i ymddeol

Caerphilly council headquarters and Councilor Keith Reynolds Image copyright Jaggery/Geograph/Cyngor Caerffili

Mae arweinydd Cyngor Caerffili wedi cyhoeddi y bydd yn camu o'r neilltu wedi bron i 40 o flynyddoedd fel cynghorydd.

Esboniodd Keith Reynolds fod "trafferthion iechyd" wedi ei orfodi i wneud y penderfyniad, cyn yr etholiadau lleol ar 4 Mai.

Dywedodd ei fod yn "hynod o falch" o fod wedi gallu cynrychioli Aberbargod am 38 o flynyddoedd ac i weithredu fel arweinydd y cyngor am dair blynedd.

Dywedodd Chris Burns, prif weithredwr y cyngor dros dro, fod Mr Reynolds wedi bod yn "was cyhoeddus ardderchog".