Llafur yn 'tanseilio targed miliwn o siaradwyr Cymraeg'

Cymraeg

Mae un o aelodau'r blaid Lafur yng Nghaerdydd yn dweud bod rhai o wleidyddion Llafur yn y brifddinas yn ceisio tanseilio targed siaradwyr Cymraeg y llywodraeth.

Mae Dr Huw Williams yn dweud bod rhai o'r cynghorwyr â rhagfarn yn erbyn siaradwyr ac addysg Gymraeg.

Mae arweinydd Llafur Cyngor Caerdydd a nifer o leisiau amlwg o fewn y blaid yn lleol wedi anghytuno â'i safbwynt.

Ysgol

Roedd Dr Williams yn un o'r rhai a fu'n ymgyrchu dros gael ysgol gynradd addysg Gymraeg yn Grangetown a Threbiwt.

Fe agorodd Ysgol Hamdryad ym mis Medi ond mae hi eto i gael cartref parhaol.

Y bwriad ydy symud ysgol Hamadryad i'r safle newydd ym mis Medi eleni.

Yn ôl Dr Williams mi allai gwleidyddion Llafur fod wedi bod yn fwy cefnogol.

Dywedodd wrth raglen Newyddion 9 nos Wener: "Wedi tair blynedd ddiflas o ymgyrchu, mae gennym ysgol ond nid adeilad newydd hyd yma.

"O ganlyniad mae gen i wybodaeth o sut mae'r system yn methu a theimlaf bod yn rhaid i mi dynnu sylw at ragfarnau elfennau o'r blaid Lafur.

"Os yw'r blaid Lafur o ddifrif am ei pholisi o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg, rhaid mynd i'r afael â'r methiannau yma."

Image caption Mae arweinydd Llafur Cyngor Caerdydd, Phil Bale yn dweud fod cynnydd o 50% yn nifer y plant yn y brifddinas sydd yn cael addysg cyfrwng Cymraeg ers 2004

Honnodd Dr Williams hefyd nad oedd yr aelod seneddol lleol, Stephen Doughty, am wneud dim ynglŷn â'r mater a chilio i'r cysgodion wnaeth yr aelod Cynulliad Vaughan Gething, meddai.

Mae gwleidyddion eraill Llafur wedi anghytuno â sylwadau Dr Williams am "ragfarn" y blaid yn erbyn ysgolion Cymraeg eu hiaith.

"Nid dyma ein profiad ni yng Nghaerdydd," meddai arweinydd Llafur Cyngor Caerdydd, Phil Bale.

"Dwi'n credu ein bod wedi bod yn hynod gefnogol i'r iaith Gymraeg yma.

"Rydym wedi gweld cynnydd anferth yn y rhai sy'n dymuno cael addysg Gymraeg.

"Bellach mae rhyw 7,000 o ddisgyblion yn cael eu haddysgu mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg - ffigwr sydd wedi cynyddu 50% ers 2004."

Dywedodd cynghorydd Llafur, Grangetown, Ashley Govier y bydd yr ysgol newydd yn y pen draw yn fwy na'r hyn a ofynnodd ymgyrchwyr amdano.

Bydd dau ddosbarth y flwyddyn yn hytrach nag un.

"Argaeledd tir a safle addas yw'r her. Rydyn ni wastad wedi eisiau adeiladu. Nid brwydr iaith yw hi."

Image caption Mae Vaughan Gething AC yn dweud ei fod am weld Ysgol Hamadryad yn llwyddo

Mewn ymateb i erthygl Huw Williams, fe ddywedodd Vaughan Gething AC: "Rwyf i wastad wedi bod eisiau i addysg cyfrwng Cymraeg ehangu yn Grangetown a Butetown.

"Mi wnes i hynny yn glir i'r aelod o'r cabinet a oedd yn edrych ar ôl addysg ar y pryd.

"Rwyf, ers hynny, wedi cwrdd â'r aelod hwnnw er mwyn datblygu'r ysgol.

"Rwy'n edrych ymlaen i weithio gyda rhieni, yr ysgol a'r gymuned yn ehangach er mwyn sicrhau bod Ysgol Hamadryad yn llwyddiant."

Dywedodd Stephen Doughty AS hefyd ei fod yn gwbl gefnogol i addysg cyfwng Cymraeg yn Grangetown, Trebiwt a Bae Caerdydd.

"Dwi'n credu bod hawl gan blant yng Nghymru i gael addysg yn eu hiaith eu hunain.

"Dwi wedi cyfarfod â Mr Williams ac ymgyrchwyr eraill gan ddweud wrtho fy mod wastad o blaid ehangu.

"Wrth gwrs mae addysg yn fater sydd wedi cael ei ddatganoli ac felly mi wnes gyfeirio'r mater at ein haelod Cynulliad lleol ac at gynghorwyr a oedd yn gefnogol."