Munster 21-30 Scarlets

  • 24 Chwefror 2017
Y Scarlets yn ymladd yn ôl yn yr ail hanner i sicrhau buddugoliaeth Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Y Scarlets yn ymladd yn ôl yn yr ail hanner i sicrhau buddugoliaeth

Yr hen ystrydeb am gêm o ddau hanner sydd yn dod i'r meddwl yn y gêm hon. Pan gafwyd y toriad roedd Munster sydd yn ail yn y Pro12 yn ymddangos yn gyfforddus ac yn nesu tuag at fuddugoliaeth.

Roeddynt wedi cael tri trosgais drwy Taute, Sweetnam ac Oliver a chicio cywir Bleyendaal. Unig ymateb y Scarlets oedd chwe phwynt drwy droed Jones.

Ond nid oedd y Scarlets wedi eu claddu. Yn yr ail hanner roedd tri trosgais yn ddigon i roi buddugoliaeth i'r cochion - diolch i waith Parkes eu canolwr, McNicholl eu cefnwr, van der Merwe ar yr asgell a throed gywir Dan Jones.

Roedd hi'n fuddugoliaeth rymus iawn sy'n eu gosod yn y pedwerydd safle yn y Pro12.