Dreigiau 22-54 Leinster

Ashton Hewitt (ar y dde) Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Leinster yn drech na'r Dreigiau er gwaethaf ymdrechion Ashton Hewitt (ar y dde)

Nid oedd hyd yn oed y mwyaf gobeithiol o gefnogwyr y Dreigiau yn gwbl hyderus ynghylch y gêm hon yn erbyn Leinster.

Erbyn diwedd yr hanner cyntaf yr oedd y sgôr yn argoeli'n well na'r ofnau ac un ar ddeg pwynt yn unig oedd rhwng y ddau dîm.

Ond erbyn diwedd y pedwar ugain munud roedd Leinster wedi sgorio wyth cais a saith o'r rheiny yn drosgeisiau.

Nid oedd y Dreigiau yn gwbl ddi-ymdrech ac fe gafwyd tri chais gan Hughes, Screech a Pretorius. Buddugoliaeth i'r ymwelwyr felly ar Rodney Parade a nhw sydd ar frig y Pro12.