Hepgor cynlluniau symud pencadlys newydd Cyngor Abertawe

Pencadlys Image copyright Cyngor Abertawe

Mae Cyngor Abertawe wedi rhoi'r gorau i'r cynlluniau i symud eu pencadlys newydd i gyn glwb nos Oceana.

Mae'r safle yn y broses o gael ei ddymchwel ar hyn o bryd am fod pentref digidol yn mynd i gael ei sefydlu yno fel rhan o gytundeb dinesig Bae Abertawe.

Mae'r cyngor rŵan yn ystyried y maes parcio sydd ar Stryd Rhydychen gerllaw fel y lleoliad newydd.