Carchar Wrecsam: 'Dim pwysau ychwanegol ar wasanaethau'

  • 27 Chwefror 2017
Carchar

Mae penaethiaid gwasanaethau Wrecsam yn ffyddiog na fydd 'na bwysau ychwanegol arnyn nhw yn sgil agor Carchar y Berwyn.

Dyma'r carchar mwyaf o'i fath ym Mhrydain gyda lle i 2,200 o droseddwyr pan fydd hi'n gwbl weithredol.

Mae disgwyl i'r carcharorion cyntaf gyrraedd ddydd Mawrth.

Ond er bydd y troseddwyr yn defnyddio gwasanaethau lleol fel yr heddlu, iechyd a gofal cymdeithasol, mae arweinwyr yn dweud bod 'na gynlluniau i ddelio â'r gofynion.

'Wedi recriwtio'n barod'

Cyngor Wrecsam fydd yn cynnig gofal cymdeithasol yng Ngharchar Y Berwyn.

Ar raglen y Post Cyntaf, dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones bod y ffaith nad ydy'r carcharorion i gyd yn symud i'r safle ar unwaith yn mynd i wneud gwahaniaeth.

"Dwi'n meddwl bod dim pressure achos bydd o'n araf," meddai.

"Mae gofal cymdeithasol a staffio o fewn Berwyn wedi cael ei gytuno ac mae gweithwyr cymdeithasol wedi cael eu recriwtio yn barod.

"Mae agor Berwyn wedi rhoi cyfle i'r cyngor sefydlu model sydd yn integreiddio iechyd, gofal cymdeithasol a gwarchodol o'r dechrau."

Image copyright Y Weinyddiaeth Gyfiawnder
Image caption Mae'r carchar am gostio tua £185,000 ychwanegol i Heddlu'r Gogledd

Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr fydd yn gyfrifol am y gofal iechyd yn y carchar ond Llywodraeth y Deyrnas Unedig fydd yn talu am y gofal yma.

Mae tua 80 o staff mewn meysydd sy'n cynnwys nyrsio, gofal iechyd meddwl a chamddefnydd cyffuriau wedi eu recriwtio'n barod.

Ond mae 'na bryderon am y baich ariannol i'r heddlu wrth iddyn nhw blismona'r carchar newydd.

Yn ôl Comisiynydd Heddlu a Throsedd y Gogledd, Arfon Jones fe fydd yn costio rhyw £185,000 ychwanegol i Heddlu'r Gogledd ac mae dod o hyd i'r arian yn mynd i fod yn heriol.

"'Dan ni wedi adeiladu fo i mewn blwyddyn yma allan o reserves.

Image copyright EYEIMAGERY
Image caption Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd y Gogledd wedi dweud y bydd rhaid dod o hyd i'r arian i blismona'r carchar newydd

"Ond yn y blynyddoedd i ddod rhaid i ni weithio allan union faint mae'n costio ac mi fydd yn rhaid i ni ariannu fo rhyw ffordd neu'i gilydd.

"Does gynnon ni ddim dewis yn y mater. Rhaid i ni blismona'r carchar 'ma doed a ddêl."

Ond yn ôl y Swyddfa Gartref mae'r Llywodraeth wedi amddiffyn gwariant yr heddlu a chomisiynwyr eleni o'u cymharu ar flwyddyn ariannol ddiwethaf.

Maen nhw hefyd yn dweud bod y ffordd mae lluoedd yn ymateb i droseddau'n fater i brif gwnstabliaid, a bod adnoddau digonol ar gael er mwyn gwneud hynny.

'Ffyddiog'

Roedd y cyn-AC Aled Roberts yn arweinydd ar Gyngor Wrecsam pan oedd yr awdurdod yn ceisio denu'r carchar i'r gogledd.

Fe wnaethon nhw drafod efo cynghorau a byrddau iechyd eraill lle'r oedd 'na garchardai, a doedd y rheiny ddim wedi gweld pwysau ychwanegol ar wasanaethau.

Dywedodd: "Doedden nhw ddim yn gweld bod y gofynion yn uwch na'r arian roedden nhw yn derbyn o ran y fformiwla.

"Dwi'n meddwl bod y gwasanaethau eu hunain yn eithaf ffyddiog ond bydd rhaid gweld."

Mae'r BBC wedi gofyn i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder am fwy o fanylion am eu gwariant ar wasanaethau lleol, ond heb gael ymateb.