Chelsea 3-1 Abertawe

  • 25 Chwefror 2017
Pel droed

Bydd Abertawe yn hapus gyda'i perfformiad yn erbyn Chelsea oddi cartref yn Stamford Bridge.

Er iddyn nhw golli o 3-1 roedd digon o arwyddion gobeithiol yn eu chwarae.

Cesc Fabregas rhoddodd Chelsea ar y blaen.

Ond fe darodd yr Elyrch yn ôl cyn diwedd yr hanner cyntaf a hynny gyda'u cyfle gwirioneddol cyntaf. Fernando Llorente gafodd y peniad i gefn y rhwyd.

Cafodd yr ymwelwyr gam yn yr ail hanner wedi i Cesar Azpilicueta ddefnyddio ei law yn y cwrt cosbi.

Pedro gafodd yr ail gôl i Chelsea ac fe ddaeth y drydedd gan Diego Costa.

Er mai colli wnaethon nhw mai'r Elyrch tri phwynt yn glir o'r tri isaf.