Y chwilio am ddyn yn dod i ben ar ôl dod o hyd i gorff

  • 25 Chwefror 2017
Dyn Image copyright BBC/Llun teulu

Mae swyddogion heddlu sydd wedi bod yn chwilio am ddyn 68 oed wedi dod o hyd i gorff.

Cafodd Thomas Williams o Ferthyr Tudful ei weld diwethaf yn gadael Ysbyty Brenhinol Morgannwg ddydd Mercher.

Dyw'r corff ddim wedi cael ei adnabod yn swyddogol eto ond mae teulu Mr Williams wedi cael gwybod.