Mansfield 2-1 Casnewydd

  • 25 Chwefror 2017
pel droed

Mae gobeithion Casnewydd o aros yn yr ail adran yn edrych yn fwy tywyll wrth i Mansfield gipio buddugoliaeth.

Golygodd gôl gynnar Ryan Bird fod yr Alltudion ar y blaen ond tarodd Krystian Pearce yn ôl gan ei gwneud hi'n gyfartal.

Cafodd Jaanai Gordon ei anfon o'r cae ar ôl dwy garden felen.

Ac fe aeth pethau o ddrwg i waeth wrth i Craig Reid hefyd gael ei gosbi gan olygu bod Mansfield yn cael cic o'r smotyn.

Shaquile Coulthirst wnaeth sgorio.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Casnewydd ar y gwaelod a chwe phwynt tu ôl i'r tîm uwch eu pen.