Deiseb i geisio cadw myfyrwraig 'abl iawn' ym Mhrydain

  • 25 Chwefror 2017
Shiromini Satkunarajah Image copyright Shiromini Satkunarajah

Mae mwy na 8,500 o bobl wedi arwyddo deiseb er mwyn ceisio atal myfyrwraig sydd yn astudio ym Mangor rhag cael ei hanfon yn ôl i'w mamwlad.

Cafodd Shiromini Satkunarajah, 20, ei geni yn Sri Lanka ond mae wedi byw ym Mhrydain ers wyth mlynedd ac ar fin gorffen ei chwrs mewn peirianneg.

Cafodd ei harestio ddydd Iau ac mae bellach yng nghanolfan gadw Yarlswood.

Mae disgwyl iddi adael Prydain ddydd Mawrth nesa.

Cais wedi ei wrthod

Mae'r Swyddfa Gartref yn dweud nad ydyn nhw yn rhoi sylw ynglŷn ag achosion unigol.

Fe ddaeth Miss Satkunarajah i Brydain yn 2009 fel rhywun oedd yn dibynnu ar ei thad oedd wedi dod yma gyda fisa.

Fe wnaeth ei thad farw yn 2011 ond fe gafodd hi a'i mam aros tra ei bod yn cwblhau ei haddysg yn yr ysgol ac yn dechrau ei chwrs yn y brifysgol.

Cafodd ceisiadau pellach i aros eu gwrthod ond roedd ganddi hawl i aros tra roedd hi'n apelio.

Ddydd Iau cafodd wybod bod ei chais am loches wedi ei wrthod.

Image copyright Google
Image caption Mae Shiromini Satkunarajah ar fin gorffen ei chwrs yn y brifysgol

Mae Miss Satkunarajah nawr wedi dechrau deiseb yn galw ar yr ysgrifennydd cartref i ail ystyried.

Dywedodd aelod o'r teulu wrth BBC Cymru: "Dyw hi ddim yn deg fod ganddi ddim ond tri mis i orffen ei chwrs. Fe ddylen nhw o leiaf gadael iddi orffen hwnnw.

"Daeth Shiromini yma pan oedd hi'n 12. Mae ei theulu a'i ffrindiau yma. Dyw hi ddim yn adnabod unrhyw un a does ganddi ddim byd yn Sri Lanka."

Yn ôl Iestyn Pierce, pennaeth adran beirianneg Electronig a Thrydanol Prifysgol Bangor mae'n fyfyrwraig "abl iawn a diwyd" fyddai yn debygol o gael gradd dosbarth cyntaf.

"Pe byddai yn cael graddio byddai yn aelod gwerthfawr o'r gweithlu mewn pwnc lle mae prinder byd eang."

Mae Aelod Seneddol Arfon, Hywel Williams wedi cyhuddo'r Swyddfa Gartref o ddangos "dihidrwydd" tuag ati ac mae sefydliadau sydd yn cynrychioli myfyrwyr ac esgob gweithredol Llundain wedi gofyn i'r swyddfa gartref ail ystyried.

Dywedodd llefarydd ar gyfer y Swyddfa Gartref bod gan Brydain "hanes o roi lloches i bobl sydd wir angen" a'i bod yn ystyried bob achos yn ofalus.