Lloyd Williams, cyn chwaraewr Cymru wedi marw yn 83 oed

Brodyr
Image caption Y brodyr- Tony, Bleddyn, Cenydd, Elwyn, Lloyd Williams, Vaughan, Brinley a Gwyn

Mae cyn chwaraewr Cymru a mewnwr a chapten Caerdydd, Lloyd Williams, wedi marw yn 83 oed.

Cafodd Lloyd Williams 13 cap dros ei wlad rhwng 1957-1962.

Roedd yn un o saith o frodyr o Ffynnon Taf, pentref ger y brifddinas, wnaeth chwarae ar gyfer Caerdydd.

Yn eu plith oedd y canolwr Bleddyn wnaeth chwarae ar gyfer Cymru a'r Llewod ond fu farw yn 2009.

Dywedodd y clwb eu bod wedi'u tristau a bod eu meddyliau gyda ei deulu a ffrindiau.