Gweilch 26-15 Glasgow

Rygbi

Mae'r Gweilch nawr wedi symud i'r ail safle ym mhencampwriaeth y Pro 12 gyda phwynt bonws yn erbyn Glasgow yn stadiwm Liberty.

Wrth i Keelan Giles a Josh Matavesi gael cais yr un, roedd y Gweilch yn rheoli, ond fe darodd yr ymwelwyr yn ôl gyda chais Corey Flynn.

Am gyfnod yn yr ail hanner Glasgow oedd a'r llaw uchaf wedi cais y cefnwr Peter Murchie.

Ond ar ôl i Tyler Ardron a Kieron Fonotia groesi'r llinell a Luke Price gicio'n gywir, daeth buddugoliaeth gyfforddus i'r Gweilch.