'Gormod o bwysau' ar nyrsys ardal medd Coleg Brenhinol

nyrs ardal
Image caption "Fi'n credu bod pob nyrs moyn rhoi gwasanaeth o'r safon ucha' ond mae e yn broblem"

Mae gormod o bwysau ar nyrsys ardal sy'n gofalu am gleifion yn eu cartref ac mae angen mwy o fuddsoddiad, yn ôl y Coleg Nyrsio Brenhinol.

Nyrsys arbenigol sy'n gweithio'n y gymuned yw nyrsys ardal.

Mae ffigyrau diweddar yn dangos bod nifer y nyrsys ardal drwy Gymru wedi gostwng 42% dros y blynyddoedd diwethaf, ond ar yr un pryd mae eu llwyth gwaith wedi cynyddu'n aruthrol, meddai'r Coleg.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod nifer cyffredinol y nyrsys sy'n darparu gwasanaethau cymunedol wedi cynyddu.

'Isie buddsoddi mwy'

Mewn cyfweliad gyda rhaglen wleidyddol newydd BBC Cymru ar S4C, O'r Senedd, dywedodd Yvonne Thomas o'r Coleg Nyrsio Brenhinol: "Mae'n rhaid i chi gofio yn y gymuned does dim limit ar y gwlâu sydd gyda ni felly does dim limit i'n caseload ni.

"Os y'ch chi'n sâl chi moyn y gwasanaeth gore a fi'n credu bod pob nyrs moyn rhoi gwasanaeth o'r safon ucha' ond mae e yn broblem."

Image caption Dywedodd Yvonne Thomas bod pob nyrs eisiau rhoi gwasanaeth o'r safon uchaf, ond bod angen buddsoddi

"Does dim yr amser gyda ni i hala gyda'r cleifion i edrych ar ôl nhw'n iawn ambell waith.

"Mae isie buddsoddi mwy yn y gymuned a fwy o adnoddau."

Datblygu cymysgedd sgiliau

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae Byrddau Iechyd yn awyddus i ddatblygu cymysgedd sgiliau mwy effeithiol ar lefel leol, gan ddefnyddio nyrsys ardal hynod brofiadol i gyfarwyddo, arwain a chynghori timau nyrsio cymunedol.

"O ganlyniad, mae nifer cyffredinol y nyrsys sy'n darparu gwasanaethau cymunedol wedi cynyddu 17% dros y chwe blynedd diwethaf."

Wythnos diwethaf fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai'n gwario £95m ar hyfforddi mwy o weithwyr gofal gan gynnwys nyrsys ardal.

Bydd mwy ar y stori hon ar O'r Senedd ar S4C am 22.00nos Fawrth 28ain o Chwefror.


Image caption Mae nyrsys ardal yn gallu ysgafnhau'r straen ar rannau eraill y gwasanaeth iechyd

Cemlyn Davies ar daith gyda nyrs ardal.

Tra'n gweithio ar y stori hon fe dreuliais i fore yng nghwmni Siân Lewis, sy'n gweithio fel nyrs ardal yn Aberteifi.

Dywedodd Siân bod ei llwyth gwaith "wedi dyblu" ers iddi ddechrau gweithio'n y gymuned 10 mlynedd yn ôl.

"Yn Aberteifi ni'n gweld lan i 50 o bobl y diwrnod," meddai Sian.

"I drial ffito 50 o bobl mewn ni'n eitha prysur a ni'n gorfod dreifo'n weddol gyflym o un man i'r llall."

Fe gawson ni groeso cynnes wrth gyrraedd tŷ Tom a Muriel James, dau o gleifion Siân a'i thîm.

"Maen nhw'n werth y byd," meddai Muriel, "sai'n gwbod be fydden ni'n neud hebddyn nhw."

Dywedodd Tom y byddai e mewn cartref gofal erbyn hyn, oni bai am Siân a'i chydweithwyr.

Mae ymweliadau Siân yn golygu bod cleifion fel Tom a Muriel yn gallu osgoi taith drafferthus i'r ysbyty neu'r feddygfa.

Mae hynny'n ei dro'n ysgafnhau'r straen ar rannau eraill o'r gwasanaeth iechyd.

Ond mae'n werth cofio y bydd ymdrechion gwleidyddol nawr i ddarparu mwy o ofal yn y cartre'n gweld cynnydd pellach yn llwyth gwaith nyrsys sy'n gweithio'n y gymuned a bydd angen sicrhau bod ganddyn nhw'r adnoddau i ymdopi.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda - sy'n gwasanaethu'r ardal hon - bod nifer o wasanaethau "newydd a chyffrous" yn cefnogi'r nyrsys ardal a bod rhain i gyd yn gweithio mewn "modd integredig i ddarparu'r lefelau uchaf o ofal yn y gymuned".

"Mae'r bwrdd iechyd yn falch iawn o ansawdd a maint y gwaith nyrsio ardal sy'n cael ei gyflawni a dymunwn ailadrodd ein diolchgarwch twymgalon ar ran ein cleifion a'n partneriaid," meddai'r llefarydd.