Arolwg: Croeso wedi Brexit i weithwyr â'r sgiliau iawn

  • 1 Mawrth 2017
baner cymru a'r ue Image copyright Getty Images

Mae bron i dri chwarter pleidleiswyr Cymru (74%) yn credu mai dim ond dinasyddion o'r UE sydd â'r sgiliau a'r cymwysterau "iawn" ddylai gael caniatâd i fyw a gweithio yn y DU wedi Brexit.

Dyna mae arolwg blynyddol Dydd Gŵyl Dewi BBC Cymru yn ei awgrymu.

Roedd dros hanner y rhai a holwyd (57%) hefyd yn credu y dylai gwleidyddion barchu canlyniad y refferendwm i adael yr Undeb Ewropeaidd, gydag ond 24% y credu y dylai Aelod Seneddol ystyried canlyniad y bleidlais yn eu hetholaeth cyn penderfynu a ddylid cefnogi gadael yr UE ai peidio.

Roedd yr arolwg, gafodd ei gomisiynu gan BBC Cymru a'i gynnal gan ICM, hefyd wedi gofyn am farn y cyhoedd ar faterion fel safonau ysgolion, grymoedd y Cynulliad a'r Arlywydd Trump.

Image copyright AP
Image caption 38% oedd am ddileu'r gwahoddiad i Donald Trump ddod i'r DU

Roedd 60% o'r rhai gafodd eu holi am i ymweliad yr Arlywydd Trump fynd yn ei flaen, gyda 38% am ddileu'r gwahoddiad.

Wrth gael eu holi am effaith Brexit ar economi Cymru, roedd 44% yn credu y gallai gael effaith negyddol, gyda 33% yn dweud y byddai'r effaith yn un gadarnhaol.

'Gadael yr UE yn dal i syfrdanu'

Yn ôl Martin Boon o gwmni ICM Unlimited: "Gyda thanio Erthygl 50 lai na mis i ffwrdd, mae'r penderfyniad i adael yr UE yn dal i syfrdanu.

"Roedd Cymru wedi pleidleisio o fymryn i adael, ac mae data BBC Cymru yn cadarnhau bod pobl fwy na thebyg wedi gwneud hynny er gwaetha' gwybod y gallai hynny niweidio economi Cymru a'u sefyllfa ariannol bersonol.

"Mae 44% yn credu y bydd yna effaith negyddol ar economi Cymru, a 30% o'r farn y bydd eu sefyllfa ariannol yn dioddef - y ddau yn uwch na'r rhai sy'n credu y bydd y canlyniad yn fwy cadarnhaol.

"Er gwaetha cydnabod hyn, y brif neges i Theresa May yw 'cariwch ymlaen'."

Image caption Roedd 44% o blaid gweld mwy o bwerau i'r Cynulliad Cenedlaethol

Ar bwnc datganoli roedd yr arolwg yn awgrymu bod pleidleiswyr Cymru am weld Llywodraeth Cymru yn cael mwy o bwerau dros fywyd dyddiol yma, ond ddim o blaid gweld cynnydd yn nifer y gwleidyddion sy'n cael eu hethol i'r Cynulliad Cenedlaethol.

Roedd 44% o blaid gweld y Cynulliad yn cael mwy o bwerau, cynnydd o 1% ers y llynedd.

Roedd yn well gan 29% gadw at y pwerau sydd yno yn barod, sy'n ostyngiad o 1% ers y llynedd.

Roedd 3% am weld y Cynulliad yn cael llai o bwerau, a 13% am ei ddiddymu. Mae'r ffigwr yma wedi bod yn sefydlog ers refferendwm ar annibyniaeth yr Alban ym Medi 2014, ar ôl bod mor uchel â 23% ym mis Mawrth 2014.

Dim ond 6% oedd o blaid annibyniaeth i Gymru, yr un ffigwr a'r llynedd ac yn arolwg 2015.

Mwy o Aelodau Cynulliad?

Yn gynharach eleni fe gafodd Llywodraeth Cymru y grym i gynyddu nifer yr aelodau Cynulliad, ond mae'r arolwg yn awgrymu nad oes llawer o frwdfrydedd am hynny.

Dim ond 27% oedd am weld cynnydd, gyda 43% yn dweud bod y nifer presennol o 60 AC yn ddigon.

Roedd 26% yn credu bod angen llai o ACau.

Rhai o'r prif bwyntiau eraill:

  • Roedd 60% o bobl a holwyd yn gwybod mai Llywodraeth Cymru oedd yn gyfrifol am y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, gyda 32% yn credu mai Llywodraeth y DU oedd yn gyfrifol. Yn 2014 roedd 48% wedi cael yr ateb yn gywir yn arolwg BBC Cymru;
  • Roedd 64% yn credu y dylai Llywodraeth Cymru wario mwy ar y Gwasanaeth Iechyd, gyda 32% yn credu bod y gwariant presennol yn gywir;
  • Roedd dros hanner (55%) yn credu bod ysgolion Cymru yn darparu addysg o safon, gyda 17% yn credu bod yr addysg yn wan;
  • Wrth ofyn am ffynonellau newyddion, roedd 37% yn cael eu newyddion ar y teledu, 24% ar y we, 13% o bapurau newydd, 12% o'r radio a 9% o wefannau cymdeithasol.

Bu ICM Unlimited yn cyfweld â 1,002 o oedolion ar draws Cymru ar y ffôn rhwng 17-21 o Chwefror yn 2017.