Cân i Gymru: 10 ar restr fer yn dangos 'safon uchel'

  • 1 Mawrth 2017
can i gymru
Image caption Dim Ond Un gan Ffion Elin a Rhys Jones, wedi'i pherfformio gan grŵp Cordia wnaeth ennill tlws Cân i Gymru 2016

Mae 10 cân yn lle'r wyth arferol wedi cael eu dewis ar gyfer rhestr fer Cân i Gymru eleni a dywed y beirniad fod hynny'n adlewyrchiad o'r "safon uchel".

Cafodd y rhestr fer o'r cyfansoddwyr ei chyhoeddi gan S4C ar Ddydd Gŵyl Dewi.

Dywed y trefnwyr eu bod wedi derbyn dros 100 o ganeuon ar gyfer y gystadleuaeth.

Fe fydd y gân fuddugol yn cael ei dewis ar raglen sy'n cael ei darlledu ar nos Sadwrn 11 Mawrth.

'Syrpreis'

Cafodd y 10 enw ar gyfer y rhestr fer eu dewis gan banel o feirniaid oedd yn cynnwys y canwr a'r cyfansoddwr Geraint Jarman.

"Roedd didoli'r holl ganeuon yn dasg anodd gan fod cymaint o'r caneuon o safon uchel," meddai.

"Roeddwn i'n chwilio am gân fyddai'n rhoi bach o syrpreis i mi, ac yn gwneud i mi deimlo'n wahanol - rhywbeth yng nghuriad neu alaw'r gân fyddai'n ei gwneud yn wahanol."

Image caption Geraint Jarman oedd un o'r panelwyr oedd yn penderfynu ar y rhestr fer

Yn ôl Geraint Jarman, a enillodd y wobr yn 1972 gyda'r gân Pan Ddaw'r Dydd a gafodd ei pherfformio gan Heather Jones, mae ennill yn gallu bod yn sbardun pwysig.

"Fe wnaeth ennill y gystadleuaeth roi hwb mawr i mi gario 'mlaen i gyfansoddi a dysgu mwy am y grefft," meddai.

"Mae unrhyw beth sy'n sbarduno pobl i ddefnyddio'r iaith Gymraeg yn bwysig, ac mae tipyn o gravitas yn perthyn i'r gystadleuaeth gan ei bod yn cynnig gwobr hael i gyfansoddwyr."

Ar y panel hefyd roedd y cyfansoddwyr a pherfformwyr Alys Williams a Mei Gwynedd; Rhydian Dafydd, aelod o fand Joy Formidable; a Sion Llwyd, cynhyrchydd Cân i Gymru.

Dim mentoriaid

Dywedodd Sion Llwyd: "Ffocws Cân i Gymru yw'r caneuon, ac eleni fe fydd hyn i'w weld fwyfwy. Does dim mentoriaid, dim beirniaid, dim wal Twitter.

"Mae'r pwyslais ar y caneuon ac fe fyddan nhw'n cael eu perfformio gan gantorion dawnus i gyfeiliant band byw."

Gwylwyr y rhaglen fydd yn pleidleisio i ddewis pwy fydd yn ennill tlws Cân i Gymru 2017.

Bydd tair gwobr eleni - bydd yr enillydd yn derbyn £5,000, £2,000 i'r ail, a £1,000 i'r drydedd.

Bydd y rhaglen Cân i Gymru 2017 yn cael ei darlledu nos Sadwrn, 11 Mawrth am 20:25 ar S4C.

Image copyright S4C

Y rhestr fer:

Ti yw fy Lloeren - Hywel Griffiths

Mae Hywel yn artist graffeg llawrydd ac yn byw yng Nghaerdydd ar ôl treulio cyfnod yn Llundain. Cafodd y gân ei chyfansoddi yn wreiddiol yn y Saesneg ac yn sôn am Brexit, ond wrth addasu'r gân i'r Gymraeg fe newidiodd y neges. Mae'r gân yn sôn am oleuni pan fydd rhywun mewn cyfnod tywyll.

Curiad Coll - Hawys Bryn Williams a Gwion John Williams

Mae Hawys a Gwion ar hyn o bryd yn astudio Lefel A - Hawys yng Ngholeg Meirion Dwyfor, Pwllheli; a Gwion yn Ysgol Brynrefail, Llanrug. Cyfansoddwyd y gân dros Facetime, ac mae'n sôn am y frwydr ddyddiol mae pobl yn ei dioddef dros y byd.

Cân yr Adar - Llinos Emanuel

Daw Llinos yn wreiddiol o Gaerfyrddin ac ar hyn o bryd yn astudio gradd meistr mewn jazz llais yng Ngholeg Cerddoriaeth Trinity, Llundain. Ysbrydolwyd Llinos i ysgrifennu'r gân ar ôl ymweld â thraeth Cefn Sidan.

Eleri - Betsan Haf Evans

Mae Betsan yn byw ym Mhontarddulais ac wedi bod mewn bandiau ers yn 18 oed - Alcatraz, Genod Droog, Johnny Panic, Daniel Lloyd a Mr Pinc a Gwdihŵ i enwi rhai. Bydd perfformio ar Cân i Gymru yn gwireddu breuddwyd i Betsan, ac yn rhoi hwb iddi greu albwm ei hun. Mae'r gân yn dathlu ei chariad at ei gwraig, Eleri.

Fy Nghariad Olaf i - Richard Vaughan ac Andy Park

Cyfansoddwyd y gân serch hon mewn dwy awr mewn bar ym Mangor. Mae Richard yn gerddor sesiwn, arweinydd Côr y Gleision, ac yn cyfansoddi'n gyson. Mae Andy yn gerddor ac yn chwarae mewn clybiau, tafarndai a phriodasau.

Rhydd - Cadi Gwyn Edwards

Daw Cadi'n wreiddiol o Lanrwst ac mae ar hyn o bryd yn gwneud Lefel AS yn Ysgol Dyffryn Conwy. Ysgrifennodd y gân ar ei ffôn ar ôl iddi ymweld ag Ynys Llanddwyn. Disgrifia'r gân fel "unigrwydd person sydd eisiau torri'n rhydd oherwydd caethiwed".

Gelyn y Bobl - Richard Marks

Enillodd Richard Cân i Gymru yn 1991 gyda chân 'Yr Un Hen Le' a phenderfynodd ymgeisio eto eleni. Fe gafodd ei ysbrydoli i ysgrifennu'r gân wrth wylio'r newyddion ac mae'n disgrifio'r gân fel baled wleidyddol roc wedi ei gosod ar riff. Mae'n byw yn Llanbedr Pont Steffan.

Seren - Mari Lovgreen a Geraint Lovgreen

Tad a merch o Gaernarfon yn cydweithio am y tro cyntaf i gyfansoddi'r gân bersonol hon. Ysgrifennodd Mari y geiriau a Geraint yr alaw. Mae'r gân am brofiad Mari o fod yn fam am y tro cyntaf i Betsan, sydd bellach yn ddwy oed. Enillodd Geraint Cân i Gymru yn 1980 a 1982.

Pryder - Sophie Jayne Marsh

Dim ond ers blwyddyn mae Sophie wedi bod yn cyfansoddi, a dros y ddwy flynedd diwethaf mae wedi bod yn perfformio ar Heno ac mewn clybiau ar hyd a lled Ynys Môn. Mae'r gân yn trafod y gwrthgyferbyniad rhwng y pryder o derfysg yn y byd a'i bod hi'n teimlo'n ddiogel yn ei milltir sgwâr ym Modedern a Sir Fôn.

Rhywun Cystal â Ti - Eady Crawford

Dyma'r ail dro i Eady, o Ferthyr Tudful, gyrraedd rhestr fer Cân i Gymru ar ôl iddi gystadlu yn 2016. Mae'r gân yn faled am gariad a gobeithia Eady y bydd yn gwneud i bobl deimlo'n hapus. Mae Eady wedi bod â diddordeb mewn cerddoriaeth ers yn ifanc iawn, a bellach yn gigio yn y Gymraeg a'r Saesneg.