Cyflafan Beirdd Cymru

  • 2 Mawrth 2017
Darlun John Martin o'r 'Bardd Olaf' ar ymyl y clogwyn. Llun drwy gwrteisi Oriel Gelf Laing, Newcastle upon Tyne Image copyright Laing Art Gallery
Image caption Darlun John Martin o'r 'Bardd Olaf' ar ymyl y clogwyn. Llun drwy gwrteisi Oriel Gelf Laing, Newcastle upon Tyne

Eleni mae dathliadau'n digwydd i nodi 200 mlwyddiant geni bardd a ysgrifenodd gerdd enwog am gyflafan erchyll lle lladdodd brenin Lloegr holl feirdd Cymru. Ond nid yng Nghymru mae'r dathliadau'n digwydd, ond yn Hwngari.

Un o gerddi enwocaf y bardd János Arany o Hwngari oedd A Walesi Bárdok' - Beirdd Cymru.

Yn ôl y chwedl, digwyddodd y gyflafan mewn gwledd yng Nghastell Trefaldwyn, pan wrthododd y beirdd ganu clodydd brenin Lloegr, Edward y cyntaf.

Mae maer Trefaldwyn, Eric Fairbrother, yn teithio i Hwngari i fod yn rhan o'r dathliadau sy'n cychwyn ar 2 Mawrth. Bydd yn cyflwyno rhyddid y dref i'r bardd ac mae plac yn cael ei godi iddo yn Nhrefaldwyn.

Beirniadu brenin Awstria

Gofynnwyd i Arany ysgrifennu cerdd yn canmol ymweliad brenin Franz Joseph I o Awstria â Hwngari yn 1858. Ond yn lle hynny fe ysgrifennodd am hanes 500 o feirdd Cymru yn cael eu llosgi gan Edward I o Loegr yn y canoloesoedd.

Image copyright Miklós Barabás

Roedd Arany yn defnyddio'r stori fel trosiad i feirniadu rheolaeth brenhiniaeth Awstria dros Hwngari wedi'r ymgais am chwyldro yn 1848.

Mae'r gerdd ar gwricwlwm ysgolion y wlad ac yn cael ei chyfrif yn un o gerddi pwysicaf Hwngari a gall y rhan fwyaf o bobl y wlad ei dyfynnu.

Ar ôl i Hwngari ennill ei hannibyniaeth wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf daeth y gerdd hon yn symbol pwysig o'r frwydr honno.

Er fod y gerdd yma'n un o rai mwyaf adnabyddus Hwngari ychydig o bobl Cymru oedd yn gwybod amdani cyn i Karl Jenkins gyfansoddi symffoni yn seiliedig ar y gerdd gyda geiriau Cymraeg iddi gan Twm Morys.

Perfformiwyd y premiere Prydeinig o'r gwaith yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg yn Awst 2012 gyda'r unawdwyr Dennis O'Neill, Rebecca Evans a Chôr yr Eisteddfod.

Roedd hi eisoes wedi cael ei pherfformio yn Hwngari yn 2011.

Gwreiddiau'r stori

Ond o ble daw'r stori ac ydy hi'n wir?

Image copyright Richard Evans
Image caption Yn ôl y chwedl lladdwyd y beirdd wedi gwledd yng Nghastell Trefaldwyn

Yn ei ragair i'r gerdd dyma ysgrifenodd Janos Arany: "Mae'r haneswyr yn amau'r peth ond mae wedi ei nodi'n gryf yn y chwedlau fod Edward I o Loegr wedi anfon 500 o feirdd Cymru i'r stanc wedi ei fuddugoliaeth dros y Cymry (1277) i'w hatal rhag deffro'r wlad a dinistrio rheolaeth y Saeson drwy sôn am orffennol gwych eu cenedl."

Mae paentiad enwog gan Thomas Jones, Y Bardd Olaf, hefyd yn dweud yr un stori, wedi ei seilio ar gerdd o'r enw The Bard gan Thomas Gray sy'n adrodd yr un chwedl.

Yn y paentiad mae bardd olaf Cymru yn sefyll ar glogwyn gyda'i delyn ar fin neidio i'w farwolaeth.

Mae paentiad arall gan John Martin yn darlunio golygfa debyg.

Image copyright Laing Art Gallery
Image caption Darlun John Martin o'r Bardd Olaf

Er fod un o'r cofnodion cynharaf o'r stori yng ngwaith Syr John Wynn o Wydir sy'n ysgrifennu am hanes ei deulu yn y 16eg ganrif, prin yw'r dystiolaeth hanesyddol o'r gyflafan.

Ond fe afaelodd yn y dychymyg nes dod i sylw ehangach yng ngherdd Thomas Grey yn 1757.

Os yw'n wir ai peidio mae'n symbol o ba mor bwysig yw traddodiad a diwylliant i hunaniaeth ac ofn y rhai sydd mewn grym o'r pŵer hwnnw.

Roedd beirdd yn y canoloesol yn uchel eu parch yn y gymdeithas, yn gyfrifol am barhau'r traddodiad llafar ac wedi eu cysylltu'n agos gyda'r uchelwyr a'r tywysogion oedd yn eu noddi.

Yn y paentiadau maen nhw wedi eu portreadu fel disgynyddion y derwyddon Celtaidd.

Mae'r dathliadau 200 mlwyddiant yn Hwngari yn cychwyn yn Nagyszalonta ar 2 Mawrth 2017 ac mae'r flwyddyn gyfan wedi ei nodi fel blwyddyn i gofio am y bardd.

Bydd digwyddiadau mawr eraill yn cael eu cynnal yn Debrecen, Nagykőrös a Budapest a rhifyn newydd o holl waith János Arany yn cael ei gyhoeddi.