Teyrnged wedi marwolaeth dyn 37 oed ym Mhort Talbot

Marcus Sheppard Image copyright Heddlu De Cymru

Mae teyrnged wedi ei rhoi i ddyn 37 oed o Bort Talbot fu farw yn oriau mân fore Llun.

Cafodd Marcus Sheppard o ardal Castell-nedd ei ddarganfod gydag anafiadau difrifol ar Heol Dalton yn y dref ar 27 Chwefror.

Dywedodd yr heddlu bod dyn 33 oed gafodd ei arestio bellach wedi ei gyhuddo o lofruddio, a bydd yn ymddangos yn y llys ddydd Mercher.

Mewn datganiad, dywedodd teulu Mr Sheppard ei fod yn "fab, partner a thad gyda chalon enfawr" a bod ei farwolaeth yn "gadael bwlch enfawr gyda'i deulu a'i ffrindiau".

Ychwanegodd y datganiad y byddai "colled ar ei ôl am byth".

Mae'r heddlu yn parhau i apelio am wybodaeth am y digwyddiad rhwng 01:15 a 01:45.

Straeon perthnasol