Pryder am safle Ford, Pen-y-bont. Galw ar i Carwyn Jones deithio i bencadlys y cwmni
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Pen-y-bont: Galw am gyfarfod â phennaeth Ford

1 Mawrth 2017 Diweddarwyd 08:49 GMT

Mae undeb Unite yn dweud eu bod wedi cael gwybod y bydd 1,160 o swyddi'n cael eu colli yn ffatri Ford ym Mhen-y-bont erbyn 2021.

Bydd cyfarfodydd brys yn cael eu cynnal yn y ffatri ddydd Mercher o ganlyniad i'r datblygiad, a dywedodd llefarydd ar ran y Prif Weinidog Carwyn Jones bod yr adroddiadau yn "bryderus iawn".

Yn siarad ar raglen Post Cyntaf BBC Radio Cymru fore Mercher, mae llefarydd Plaid Cymru ar yr economi, Adam Price wedi galw ar Mr Jones i siarad yn uniongyrchol â phennaeth Ford i geisio cael sicrwydd ynglŷn â dyfodol y safle ym Mhen-y-bont.