Vicent Tan yn gwadu ei fod yn bwriadu gwerthu Caerdydd

Vincent Tan Image copyright Getty Images

Mae perchennog Clwb Pêl-droed Caerdydd, Vincent Tan wedi gwadu adroddiadau ei fod yn barod i werthu ei glybiau pêl-droed.

Dywedodd Tan nad oedd mewn brys i werthu'r clwb, ond y byddai'n fodlon gwrando ar gynigion.

"Os oes rhywun yn cynnig y pris cywir i mi, fe fyddai'n sicr yn ystyried," meddai.

"Rydw i wastad wedi dweud yn gyhoeddus oni bai am fy nheulu, bod fy holl fusnesau ar werth am y pris cywir. Dydw i ddim yn disgyn mewn cariad gyda fy musnesau."

'Siawns o ddyrchafiad'

Fe wnaeth y dyn busnes o Malaysia brynu clwb Caerdydd yn 2010, ond mae wedi bod yn gyfnod cythryblus i'r clwb yn y cyfnod hwnnw wrth iddyn nhw esgyn ac yna disgyn o'r Uwch Gynghrair.

Un o'i benderfyniadau mwyaf dadleuol oedd newid lliw crysau'r clwb o las i goch, penderfyniad arweiniodd at brotestiadau ac yna tro pedol.

Fe gadarnhaodd Tan yn ei ddatganiad ei fod eisoes wedi gwrthod cynigion am Gaerdydd am nad oedd "y pris yn iawn", a'i fod yn credu fod gan y clwb "siawns dda o gael dyrchafiad i'r Uwch Gynghrair eto tymor nesaf" dan reolaeth Neil Warnock.

Mae'r clybiau eraill y mae Tan yn berchen ar ran ohonynt yn cynnwys Los Angeles FC yn yr UDA, FC Sarajevo ym Mosnia, a Kortrijk Voetbalt CVBA yng Ngwlad Belg.