Lle Rhyl-i da!

  • 2 Mawrth 2017
Teulu Neal Potter yn y Rhyl yn 1957 Image copyright Neal Potter
Image caption Does na ddim byd yn bod ar Rhyl meddai'r criw yma!

Yr wythnos hon mae tref Y Rhyl wedi dod dan y lach unwaith eto wedi i wefan gyhoeddi mai dyma'r lle gwaethaf yng Nghymru i fyw.

Yn ôl gwefan iLiveHere UK mae'r traethau'n "llawn baw cŵn" a chyffuriau, llygod mawr a thai gwag ym mhobman yn yr hen dref wyliau.

Newid mawr i ddelwedd y dref yn ei hoes aur pan roedd yn un o drefi gwyliau mwyaf poblogaidd Prydain a miloedd yn heidio yno i gael hwyl.

Mae pobl y dref wedi hen arfer a gweld y penawdau negyddol ond un sydd bob amser yn amddiffyn ei dref enedigol ydy gohebydd BBC Cymru, Carl Roberts.

"Mae yna fwy i Rhyl na'r prom - fana sy'n creu'r penawdau negatif," meddai Carl Roberts.

"Mae Rhyl wedi cael cyfnod anodd yn y 1990au ond mae'r lle ar i fyny rwan ac mae'r harbwr yn le gwych i fynd am dro neu ar y beic."

Efo help Carl Roberts mae BBC Cymru Fyw yn achub cam y Rhyl gyda'n rhestr o rai o'r pethau y gall y dref fod yn falch ohonyn nhw.

Y Prom a'r traeth

Image copyright Roy Blackmore
Image caption Prom a thraeth Y Rhyl yn y 1960au

"O'n safbwynt i roedd Rhyl yn le gwych i dyfu fyny," meddai Carl Roberts.

"Oedd mynd i'r prom ar y penwythnos fel mynd ar wyliau.

"Mae'r traeth yn wych, mae yna gyflenwad diddiwedd o roc, sy'n wych i blentyn, a dwi'n cofio monorail yn Rhyl yn yr wythdegau."

Mae traeth y Rhyl yn ymestyn am filltiroedd ac fe gafodd y prom a'i holl atyniadau eu datblygu yn arbennig i ddiddanu ymwelwyr. Mae tripiau Ysgol Sul i'r Rhyl ac ymweliadau â'r Marine Lake yn rhan o chwedloniaeth Cymru erbyn hyn.

Pier Y Rhyl a adeiladwyd yn 1872 oedd y pier cyntaf yng ngogledd Cymru ac fe gostiodd £15,000 yn wreiddiol.

Hofranlong masnachol cynta'r byd

Image copyright Anthony Moss
Image caption Llun teulu o'r hofranlong oedd yn cario teithwyr o Rhyl i Wallasey yn 1962

Gwasanaeth rhwng Rhyl a Wallasey ar Lannau Mersi oedd y gwasnaeth masnachol cyntaf yn y byd i gario teithwyr ar hofranlong (hovercraft).

Ar y pryd, roedd adroddiadau'r papurau newydd yn dweud mai dyma oedd dyfodol trafnidiaeth gyda'r llong yn gallu cario 24 o bobl a gwneud 12 taith y diwrnod. Ond pharodd y gwasanaeth ddim yn hir gyda phroblemau technegol yn rhoi stop ar y freuddwyd cyn i'r cyfnod prawf ddod i ben.

Y ffotograffydd byd-enwog Philip Jones Griffiths

Image copyright Magnum Photos
Image caption Llun o Philip Jones Griffiths yn Vietnam gan John Giannini

I'r Rhyl mae'r diolch am feithrin diddordeb y ffotograffydd byd-enwog Philip Jones Griffiths, sydd fwyaf enwog am ei luniau econig o ryfel Fietnam. Yng Nghlwb Camera y Rhyl, yn gwrando ar athro lleol, E. Emrys Jones, y cafodd ei ysbrydoli i fynd ati o ddifri fel ffotograffydd.

Roedd y Philip ifanc hefyd yn treulio llawer o'i amser yn arbrofi gyda chemegau ac yn creu ffrwydriadau yn yr ardd gefn yn ei gartref yn Rhuddlan. Felly aeth yn brentis i'r fferyllfa yn y Rhyl cyn mynd ymlaen i astudio fferylliaeth ym Mhrifysgol Lerpwl a thynnu lluniau yn ei amser hamdden.

Camlesi a gondolas tanddaearol

Mae'n rhan o chwedloniaeth y dref fod 'na system o gamlesi a chychod arnynt o dan ddaear yn y Rhyl ers talwm, meddai Carl Roberts.

Yn ôl yr hanes roedd y Fenis Fach (Little Venice) yma o dan adeilad mawreddog y Queens Palace a dröwyd yn farchnad dan do yn fwy diweddar.

Mae un wefan wedi ceisio mynd i wraidd y sïon am yr ail-gread o Fenis o dan y dref gan ddod i'r casgliad ei bod hi'n fwy na dim ond chwedl.

Mae nifer fawr o adeiladau y Rhyl wedi eu rhestru yn rhai Gradd II gan gynnwys Eglwys Sant Thomas, yr orsaf reilffordd, Ysbyty'r Royal Alexandra a Neuadd y Dref.

Hwyl yn yr Heulfan

Image copyright Denbighshire County Council

Heulfan y Rhyl - y Sun Centre - oedd pwll syrffio dan do cyntaf Ewrop.

Mae gan genhedlaeth gyfan o blant atgofion cynnes am yr hen Heulfan lle roedden nhw'n gallu esgus eu bod yn syrffio ar draeth yn Hawaii. I gael hoe o'r tonnau artiffisial fe allen nhw neidio ar y monoreil oedd yn mynd drwy'r awyr uwchben y pwll neu fynd i sipian diodydd meddal egsotig ac edrych yn soffistigedig yn eu siwtiau nofio wrth y bar.

Enwogion o fri

Image caption Rhai o enwogion Rhyl, o'r chwith gyda'r cloc: Nerys Hughes; Alun Williams a Carl Roberts; Caryl Parry Jones; Lisa Scott-Lee a Mike Peters.

Roedd Carl ei hun yn gweithio yn yr Heulfan a hynny yr un pryd â neb llai na Lisa Scott-Lee o'r band Steps, sydd hefyd yn dod o'r Rhyl.

Hefyd o'r dref mae'r actores Nerys Hughes oedd yn actio yn y gyfres Distric Nurse; y gyflwynwraig a'r cerddor Caryl Parry-Jones; y canwr Mike Peters; Spencer Wilding, yr actor oedd yng ngwisg Darth Vader yn y ffilm Star Wars, Rogue One a'r ymgyrchydd iaith Ffred Francis.

Aeth y cyflwynydd Alun Williams, sy'n darlledu'n gyson gyda Carl Roberts, i'r ysgol yn y Rhyl hefyd yn ogystal â chyn gyflwynydd Countdown, Carol Vorderman.

Coroni'r fenyw gyntaf

Yn Eisteddfod Rhyl 1953 y cafodd y fenyw gyntaf ei choroni yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Dilys Cadwaladr enillodd y Goron am ei phryddest Y Llen. Yn ôl ei merch Nina Watkins wnaeth hi ddim ymgeisio eto gan iddi ddweud nad oedd hi byth yn gwneud unrhyw beth ddwywaith.

Yn yr eisteddfod hon hefyd fe siaradodd Megan Lloyd George a'r dramodydd Emlyn Williams oedd yn dod o Mostyn, sydd rhyw 10 milltir o'r Rhyl.

Olion cynhanesyddol

Image copyright Mei Lewis/Amgueddfa Genedlaethol Cymru
Image caption Mae bwyall o Oes y Cerrig gafodd ei darganfod yn y Rhyl yn yr Amgueddfa Genedlaethol, Caerdydd.

Yng ngogledd ddwyrain Cymru mae rhai o'r olion cynharaf o fodolaeth pobl yng Nghymru wedi eu canfod ac mae rhai o'r rhain wedi eu darganfod ar y glannau ger tref y Rhyl. Fe gafwyd hyd i ddau ben bwyall garreg oedd yn dyddio nôl i Oes y Cerrig yma yn 1926. Mae'r ddwy fwyall bellach yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd.

Mae olion coedwig cynhanesyddol sydd tua 6,000 o flynyddoedd oed yn dod i'r golwg ar y traethau yma o bryd i'w gilydd a chafodd dyn lleol hyd i gorn carw yn y tywod yn y 1980au oedd yn dyddio nôl 2,000 - 5,000 o flynyddoedd.

Mae'r rhain yn profi y byddai pobl y Rhyl yn byw mewn lle gwahanol iawn flynyddoedd yn ôl!

Aber yr afon Clwyd

Image copyright Roy Blackmore
Image caption Eliffantod yn mynd dros bont y Foryd

Yn y Rhyl mae afon Clwyd yn mynd i'r môr gyda Sir Ddinbych ar un lan a Sir Conwy ar y llall.

Cafodd dros 30 o longau hwyliau eu hadeiladu yn y Foryd, sef yr enw ar yr aber, yn nechrau'r 19eg ganrif. Yn yr Oesoedd Canol roedd y Foryd yn cael ei defnyddio'n aml i deithio i fyny'r afon ac ar un adeg roedd cychod mawr yn gallu cyrraedd i fyny'r afon i dref Rhuddlan. Y Foryd oedd y brif ffordd i deithwyr o ogledd-orllewin Lloegr gyrraedd y Rhyl tan 1848 pan agorodd gorsaf reilffordd y Rhyl.

Mae Pont y Foryd yn mynd â'r A548 dros yr afon gan gysylltu'r Rhyl gyda Bae Cinmel a Thywyn. Ond pan dynnwyd y llun yma yn y 1960au eliffantod oedd yn teithio ar ei hyd - a dyna ichi ryfeddod y Rhyl!