Cwpan Cyprus: Merched Hwngari 0-2 Merched Cymru

Helen Ward Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Yr ymosodwraig brofiadol, Helen Ward rwydodd y gôl gyntaf

Mae tîm pêl-droed merched Cymru wedi trechu Hwngari o 2-0 yn eu gêm agoriadol yng Nghwpan Cyprus.

Roedd y crysau cochion ar y blaen ar yr egwyl diolch i gôl Helen Ward ar ôl 34 munud, cyn i Charlie Estcourt ddyblu'r fantais wedi 66 munud.

Bydd y tîm nawr yn herio'r Weriniaeth Tsiec a Gweriniaeth Iwerddon yn eu gemau eraill yn y grŵp.

Fe orffennodd tîm merched Cymru'n chweched allan o wyth yng Nghwpan Cyprus y llynedd - y tro cyntaf iddyn nhw gystadlu yn y twrnament.