Gohirio cwest wedi i aelod o'r rheithgor siarad â thyst

  • 2 Mawrth 2017
Alexander Pavlou Image copyright Heddlu De Cymru
Image caption Bu farw Alexander Pavlou yn dilyn noson allan yn Abertawe

Mae cwest i farwolaeth myfyriwr yn Afon Tawe yn Abertawe wedi dod i ben yn fuan ar ôl i aelod o'r rheithgor siarad gydag un o dystion y cwest.

Bu farw Alexander Pavlou, 19, yn dilyn noson allan yn y ddinas ym mis Mai 2015.

Cafodd ei weld yn fyw am y tro olaf gan swyddogion yr heddlu ym maes parcio archfarchnad Sainsbury's.

Cafwyd hyd i'w gorff yn yr afon y diwrnod canlynol.

Atal y gwrandawiad

Fe wnaeth y cwest i'w farwolaeth ddechrau ddydd Llun ac roedd disgwyl iddo bara am 10 niwrnod.

Ond cafod y gwrandawiad ei atal ar ganol y pedwerydd diwrnod dan y dirprwy grwner Paul Bennett, cyn iddo ryddhau'r 11 aelod o'r rheithgor.

Dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa Crwner Abertawe: "Mae'r cwest i farwolaeth Alexander Costas Pavlou wedi ei ohirio.

"Y rheswm dros ei ohirio yw bod un o'r rheithgor wedi cysylltu gyda thyst."

Bydd dyddiad cwest newydd yn cael ei gyhoeddi yn yr wythnosau nesaf.