Teyrnged i ddynes fu farw mewn gwrthdrawiad yn Abergele

  • 3 Mawrth 2017
Hilda Blythin Image copyright Llun teulu

Mae teulu dynes fu farw mewn gwrthdrawiad yn Abergele wedi rhoi teyrnged iddi, gan ddweud ei bod yn berson "hael, caredig a balch".

Roedd Hilda Ann Blythin yn 69 oed ac yn byw yn lleol.

Cafodd yr heddlu eu galw tua 15:20 ddydd Iau i'r gwrthdawiad ar y gyffordd rhwng Stryd y Dŵr a Stryd y Bont yn y dre'.

Roedd cerddwr, lori a dau gar yn rhan o'r digwyddiad.

'Llawn bywyd'

Mewn datganiad, dywedodd teulu Ms Blythin: "Rydym ni ar chwâl wedi colli Hilda - Gwraig, Mam a Nain annwyl.

"Roedd hi'n llawn bywyd ac yn gymeriad go iawn, yn hael, caredig a balch.

"Roedd hi'n ysbrydoliaeth i lawer o bobl, ac yn dotio at ei theulu. Byddan ni i gyd yn ei cholli."

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod yn parhau i apelio am wybodaeth, a'u bod yn cynnig cymorth i'r teulu.

Maen nhw'n yn gofyn i unrhyw un sydd gyda gwybodaeth i gysylltu drwy ffonio 101 gan ddefnyddio'r cyfeirnod V029646.