Myfyrwyr yn rhoi teyrnged i chwaraewr rygbi fu farw

  • 3 Mawrth 2017
Gem

Mae tîm rygbi prifysgol wedi chwarae gêm er cof am chwaraewr gafodd ei lladd mewn gwrthdrawiad ddydd Sadwrn diwethaf.

Bu farw Elli Norkett, 20, oedd yn chwarae rygbi i dîm merched Cymru, ar ôl gwrthdrawiad rhwng Banwen a Glyn-nedd.

Roedd hi'n fyfyrwraig yn ei blwyddyn olaf ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd.

Roedd munud o gymeradwyaeth cyn gêm tîm y merched yn erbyn Loughborough ddydd Gwener, yn rownd go-gynderfynol Cwpan Prifysgolion a Cholegau Prydain.

Cyn y gêm, dywedodd yr Athro Richard Tong o Ysgol Chwaraeon y Brifysgol bod yr holl chwaraewyr yn benderfynol o chwarae nos Wener er cof am Ms Norkett.

"Roedd y chwaraewyr yn gwbl sicr am chwarae heno - roedden nhw eisiau chwarae," meddai.

"Fe wnaethon ni siarad gyda'r teulu ac roedden nhw'n awyddus iawn am y cyfle i chwarae - i bawb ddangos y teimladau oedd ganddyn nhw am Elli."

Image copyright Llun teulu

Yn wreiddiol roedd y gêm ar gampws Cyncoed i fod i gael ei chwarae ddydd Mercher, ond cafodd ei symud i Barc yr Arfau.

Roedd crys Miss Norkett, o Landarsi ger Castell-nedd, ar y llinell hanner cyn y gic gyntaf, ac fe wnaeth aelodau'r garfan osod rhosod arno.