Tân yn dal i losgi mewn ffatri ailgylchu ym Mro Morgannwg

Tan

Mae tân mewn ffatri ailgylchu ym Mro Morgannwg yn dal i losgi o dan oruchwyliaeth, meddai'r gwasanaeth tân.

Dechreuodd y tân ar ôl i 2,000 tunnell o wastraff gynnau ar stâd ddiwydiannol Llandŵ nos Iau.

Does neb wedi eu hanafu ond mae rhai ffyrdd sydd yn arwain at y safle ar gau.

Y cyngor i bobl sydd yn byw gerllaw yw i gadw drysau a ffenestri ar gau oherwydd y mwg.

Mae'r gwasanaeth tân yn darogan y byddan nhw ar y safle am gyfnod hir am eu bod angen gwneud yn siŵr bod y tân yn marw.