Arestio dyn wedi llofruddiaeth cwpl priod yn Ne Affrica

  • 3 Mawrth 2017
Y cwpl Image copyright LLUN TEULU

Mae dyn wedi ei arestio ar ôl i gwpl o dde Cymru gael eu darganfod yn farw mewn afon yn Ne Affrica.

Fe symudodd Roger a Christine Solik i'r wlad yn 1981 ar ôl priodi yng Nghymru yn 1980.

Mae'r heddlu yn credu eu bod wedi eu lladd yn ystod lladrad arfog yn eu cartref fis diwethaf.

Bydd dyn 43 oed yn ymddangos yn y llys yn Ne Affrica wedi ei gyhuddo o'u llofruddio, a hefyd o herwgipio a lladrad.

'Anodd deall'

Cafodd corff Christine Solik, oedd yn 57 oed ac yn wreiddiol o Aberpennar, ei ddarganfod wedi'i glymu 50 milltir o'i chartref yn nhalaith Kwazulu-Natal.

Cafodd corff Roger Solik, oedd yn 66 oed, ei ddarganfod ryw filltir o gorff ei wraig.

Roedd ganddo glefyd Parkinson.

Roedd gan y cwpl bedwar o blant a dau o wyrion, ac fe ddywedodd y teulu mewn datganiad ar y pryd ei bod hi'n "anodd deall sut y gallai rhywbeth mor dreisgar ddigwydd ar eu stâd fferm gymunedol, gyda bryniau naturiol hyfryd a chymdogion 100 metr i ffwrdd".