Gwrthdrawiad: Menyw yn yr ysbyty ag anafiadau difrifol

Damwain

Mae menyw yn yr ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad rhwng car a cherddwr yng Nghaerdydd.

Dywedodd y gwasanaeth ambiwlans fod ganddi anafiadau difrifol yn dilyn y digwyddiad fore Gwener.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw tua 08.50 i Ffordd Caerffili yn Llwyn Fedw.

Fe effeithiodd y gwrthdrawiad ar draffig am gyfnod, ond mae'r ffordd erbyn hyn wedi ail agor.