Cywirdeb 'yn atal pobl' rhag siarad yr iaith
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Cywirdeb 'yn atal chwaraewyr' rhag siarad Cymraeg

3 Mawrth 2017 Diweddarwyd 11:38 GMT

Mae rhoi pwysau ar bobl i siarad Cymraeg pur yn gwneud rhai yn y byd chwaraeon yn llai parod i arddel yr iaith, yn ôl y darlledwr Jonathan Davies.

Roedd cyn faswr tîm rygbi Cymru yn siarad cyn cynhadledd yng Nghaerdydd ddydd Iau i hyrwyddo dwyieithrwydd mewn chwaraeon.