Cyhoeddi enwebiadau Gŵyl Cyfryngau Celtaidd 2017

Llond Ceg: Kizzy Crawford, Aled Haydn Jones a Geraint Hardy Image copyright S4C
Image caption Kizzy Crawford, Aled Haydn Jones a Geraint Hardy sy'n cyflwyno Llond Ceg, sydd wedi cael dau enwebiad

Mae'r rhaglen i blant, Llond Ceg, ymysg enwebiadau amlycaf gwobrau'r Ŵyl Cyfryngau Celtaidd eleni.

Cafodd y rhaglen aml-gyfrwng, sy'n delio â materion fel bwlio a gordewdra ar ffurf rhaglen deledu ac ap, ei henwebu mewn dau gategori.

Ymysg yr enwebiadau eraill o'r byd teledu roedd y ddrama fer Pili Palod Penygroes, rhaglen hanes Ffwtbol a Fflêrs: Cofio Arwyr '76 a'r comedi teledu 'Run Sbit.

Cafodd BBC Radio Cymru ei henwebu yng nghategori'r orsaf radio orau, gyda rhai o'i rhaglenni gan gynnwys Aberfan, Recordiau Rhys Mwyn a Rhaglen Aled Hughes hefyd ar y rhestr.

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn ystod yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd yn Ynys Manaw rhwng 3-5 Mai.

Mae rhestr llawn o'r enwebiadau yma.

Rhaglenni Cymraeg sydd wedi eu henwebu:

  • Adloniant: Les Miserables: Y Daith i'r Llwyfan (Rondo Media ar gyfer S4C);
  • Adloniant ffeithiol: Wil, Aeron a'r Inca (Cwmni Da ar gyfer S4C);
  • Comedi: 'Run Sbit (Cwmni Da ar gyfer S4C);
  • Comedi radio: Bron Meirion (BBC Radio Cymru);
  • Cyfres ffeithiol: Doctoriaid Yfory (Green Bay Media ar gyfer S4C), Y Ditectif (ITV Cymru ar gyfer S4C);
  • Chwaraeon radio: Cymru v Gwlad Belg (BBC Radio Cymru);
  • Drama fer: Pili Palod Penygroes (It's My Shout ar gyfer BBC Cymru ac S4C);
  • Hanes: Ffwtbol a Fflêrs: Cofio Arwyr '76 (Rondo Media ar gyfer S4C);
  • Gorsaf radio'r flwyddyn: BBC Radio Cymru;
  • Gwobr Keiran Hegarty am arloesedd: Llond Ceg (Green Bay Media ar gyfer S4C);
  • Materion cyfoes: Y Byd ar Bedwar - Y Cymry a'r Qu'ran (ITV Cymru ar gyfer S4C);
  • Rhaglen ddogfen chwaraeon: Merci Cymru (BBC Cymru/S4C ar gyfer S4C);
  • Rhaglen ddogfen radio: Aberfan (BBC Radio Cymru);
  • Rhaglen gerddoriaeth radio: Recordiau Rhys Mwyn (BBC Radio Cymru);
  • Rhaglen gylchgrawn radio: Rhaglen Aled Hughes (BBC Radio Cymru);
  • Rhaglen i blant: Llond Ceg (Green Bay Media ar gyfer S4C).