Cwpan Cyprus: Merched Cymru 0-0 Merched Gweriniaeth Tsiec

  • 3 Mawrth 2017
Natasha Harding Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Yr ymosodwr Natasha Harding oedd un o brif fygythiadau Cymru

Mae tîm pel-droed merched Cymru wedi cael canlyniad di-sgôr yn erbyn y Weriniaeth Tsiec yn eu hail gêm yng Nghwpan Cyprus.

Methodd Kayleigh Green a Natasha Harding gyfleoedd i'r cochion yn yr hanner cyntaf, tra bod Laura O'Sullivan yn y gôl wedi gorfod arbed sawl ergyd gan y gwrthwynebwyr.

Cafodd Gemma Evans a Rachel Rowe gyfleoedd pellach yn yr ail hanner, ond ni lwyddodd yr un tîm i ganfod cefn y rhwyd.

Mae Cymru eisoes wedi trechu Hwngari yn y gystadleuaeth, ac fe fyddan nhw'n wynebu Gweriniaeth Iwerddon ddydd Llun yn eu gêm grŵp olaf.