Cofio 90 mlynedd ers buddugoliaeth Cwpan FA Caerdydd

Fred Keenor yn ysgwyd llaw capten Arsenal cyn buddugoliaeth yr Adar Gleision yn Wembley Image copyright Getty Images
Image caption Fred Keenor yn ysgwyd llaw capten Arsenal cyn buddugoliaeth yr Adar Gleision yn Wembley

Mae arddangosfa yn dathlu 90 o flynyddoedd ers i Glwb Pêl-droed Caerdydd ennill Cwpan FA Lloegr yn dechrau ddydd Sadwrn.

Enillodd yr Adar Gleision y gwpan yn 1927, yr unig dro yn ei hanes i'r gystadleuaeth gael ei hennill gan dîm o du allan i Loegr.

Yn cael eu harddangos mae medal y capten, Fred Keenor, o'r fuddugoliaeth dros Arsenal, a'r crys gafodd ei wisgo gan yr asgellwr Ernie Curtis.

Bydd nifer o luniau, rhaglen swyddogol o'r gêm a chopi o'r gwpan hefyd yn cael eu harddangos yn yr Hen Lyfrgell yng nghanol y brifddinas.

Er hynny, mae'r trefnwyr yn parhau i apelio am fwy o eitemau all gael eu rhoi yn yr arddangosfa.

Dywedodd hanesydd pêl-droed Cymru, Ceri Stennett: "Gan fod y diwrnod yn arbennig ac oherwydd buddugoliaeth Caerdydd, mae'r llawer o'r eitemau hyn wedi dod yn eiddo etifeddol mewn teuluoedd.

"Ond hoffwn glywed gan unrhyw un o Gaerdydd neu dde Cymru sydd ag unrhyw eitemau y bydden nhw'n fodlon eu benthyca i ni."