Caeredin 9-13 Gweilch

  • 3 Mawrth 2017
Matavesi Image copyright Huw Evans picture agency

Mae'r Gweilch wedi symud i frig y Pro12 wedi buddugoliaeth dros Gaeredin mewn tywydd gwael.

Daeth unig gais y gêm wrth i faswr yr ymwelwyr, Sam Davies, lwyddo i ddarganfod Josh Matavesi gyda phas wych i'r canolwr groesi'r llinell.

Llwyddodd Davies i ychwanegu'r trosiad a dwy gic gosb.

Daeth pwyntiau Caeredin i gyd o droed Duncan Weir.

Mae'r golled yn gadael Caeredin yn nawfed yn y Pro12.