Cwymp eira a thirlithriad yn Eryri

Pen-y-gwryd Image copyright Tîm Achub Mynydd Llanberis/Twitter
Image caption Edrych i lawr ar lwybr Pen-y-Gwryd ar yr Wyddfa

Mae Tîm Achub Mynydd Llanberis wedi cyhoeddi lluniau o gwymp eira ar Yr Wyddfa ddydd Gwener.

Fe ddywedodd y tîm ar wefan Twitter bod y lluniau'n dangos rhan o lwybr Pen-y-Gwryd ar y mynydd.

Image copyright @Stevewebbwales/Twitter
Image caption Roedd cwymp eira hefyd ar fynydd Garn

Mae'r lluniau yn dangos eira trwchus dros rannau o'r llwybr, ond does dim adroddiadau bod unrhyw un wedi cael eu dal yn y cwymp.

Mae defnyddiwr arall o Twitter, Steve Webb wedi cyhoeddi llun o dirlithriad hefyd yng Nghwm Idwal, a chwymp eira arall ar fynydd Garn.

Unwaith eto does dim adroddiadau o unrhyw un wedi'u dal.

Mae Warden Eryri wedi bod yn rhybuddio ers dydd Mercher fod angen offer arbenigol i fynd i fyny'r Wyddfa, ac ar drothwy'r penwythnos mae rhagolygon am fwy o eira ar dir uchel.

Image copyright @Stevewebbwales
Image caption Mae'r llun yn dangos tirlithriad uwchben Cwm Idwal ger Bethesda