Abertawe 3-2 Burnley

abertawe burnley Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Chwaraewyr Abertawe yn anhapus gyda penderfyniad Anthony Taylor

Fe wnaeth Fernando Llorente sgorio ddwywaith wrth i Abertawe sicrhau tri phwynt gwerthfawr yn erbyn Burnley.

Fe aeth yr Elyrch ar y blaen yn gynnar yn yr hanner cyntaf wrth i Llorente benio o groesiad celfydd Leroy Fer.

Ond daeth Burnley yn gyfartal ar ôl cic o'r smotyn dadleuol.

Roedd hi'n edrych fel mai ymosodwr Cymru a Burnley, Sam Vokes, oedd wedi llawio'r bêl ond penderfynodd y dyfarnwr, Anthony Taylor, fod y drosedd yn un yn erbyn Burnley.

Sgoriodd Andre Gray o'r smotyn.

Fe wnaeth gôl arall gan Gray roi'r ymwelwyr ar y blaen, ond tarodd Martin Olsson yn ôl i Abertawe, cyn i beniad hwyr Llorente sicrhau'r fuddugoliaeth.

Mae Abertawe yn parhau yn yr 16eg safle yn y tabl, ar 27 pwynt.