QPR 2-1 Caerdydd

Cardiff defender Sol Bamba heads his side ahead against QPR Image copyright Rex Features
Image caption Sol Bamba yn penio Caerdydd ar y blaen

Fe wnaeth dwy gôl yn yr ail hanner chwalu gobeithion Neil Warnock o gael buddugoliaeth wrth iddo ddychwelyd i'w gyn glwb QPR yn Loftus Road.

Roedd peniad Sol Bamba ychydig cyn yr egwyl wedi rhoi'r ymwelwyr ar y blaen.

Ond daeth Rangers yn gyfartal wrth i'r eilydd Yeni Ngbakoto daranu'r bêl i gefn y rhwyd yn dilyn symudiad taclus.

Peniad Matt Smith o groesiad Ngbakoto wnaeth selio'r fuddugoliaeth - trydydd gôl yr ymosodwr ers iddo ymuno â QPR ym mis Ionawr.