Adran 2: Casnewydd 0-4 Leyton Orient

Graham Westley Image copyright Huw Evans Agency
Image caption Mae'r canlyniad yn cynyddu'r pwysau ar dîm Graham Westley

Roedd yna ergyd sylweddol i obeithion Casnewydd o aros yn yr Adran 2 wrth iddynt golli 4-0 yn Rodney Parade.

Aeth Leyton Orient ar y blaen ar ôl wyth munud gyda Steven Alzate yn manteisio ar groesiad Josh Koroma.

Yna fe wnaeth pas gan Sam Dalby rwygo amddiffyn Casnewydd gyda Koroma yn sgorio ei gôl gyntaf i Orient.

Daeth y drydedd ar ôl cydweithio da unwaith eto rhwng Dalby a Koroma, cyn i Koroma hawlio'i hatric gyda chic o'r smotyn ar ôl 64 munud.

Mae'r canlyniad yn gadel Casnewydd ar waelod yr adran ar 26 pwynt, chwe phwynt y tu ôl i Orient.