Braintree 1-2 Wrecsam

National League Image copyright Getty Images

Fe wnaeth Wrecsam hawlio eu hail fuddugoliaeth yn olynol oddi cartref am y tro cyntaf y tymor hwn wrth guro Braintree o 2-1.

Dechreuodd pethau'n wael, gyda Michael Cheek yn rhoi Braintree ar y blaen ar ôl munud yn unig o'r chwarae.

Daeth Wrecsam yn gyfartal diolch i Ntumba Massanka yn dilyn chwarae taclus gan Izale McLeod.

Yn yr ail hanner sgoriodd Oliver Shenton ei gôl gyntaf i Wrecsam gan sicrhau'r tri phwynt.