Gleision 13-23 Munster

  • 4 Mawrth 2017
Pro12 highlights: Cardiff Blues 13-23 Munster Image copyright BBC Sport

Fe lwyddodd Munster i gadw'r pwysau ar y Gweilch ar frig y Pro12 gyda buddugoliaeth hwyr yn erbyn y Gleision.

Roedd dwy gic gosb gan Steve Shingler wedi rhoi mantais o dri phwynt i'r Gleision ar yr egwyl.

Croesodd Aled Summerhill ar gyfer cais gynta'r gêm cyn i Francis Saili daro nôl i'r ymwelwyr, gyda Rory Scannell yn ychwanegu at y sgôr gyda chic adlam.

Fe groesodd Conor Oliver yn hwyr yn y gêm i selio'r fuddugoliaeth.

Roedd y golled yn ergyd i obeithion y Gleision o orffen yn y chwech uchaf, ac maen nhw'n aros yn yr wythfed safle.