Glasgow 47-17 Dreigiau

  • 4 Mawrth 2017
Glasgow Warriors Image copyright SNS

Roedd yna saith cais i Glasgow wrth iddynt sicrhau buddugoliaeth a phwynt bonws yn erbyn y Dreigiau yn Scotstoun.

Yn erbyn y disgwyl y Dreigiau aeth ar y blaen diolch i gais Rynard Landman.

Ond croesodd Nick Grigg ddwywaith wrth i'r Albanwyr gymryd yr awenau.

Roed yna gais yr un i Rory Hughes, Ratu Tagive, Lee Jones, Mark Bennett a Peter Horne, cyn i Tyler Morgan sgorio ail gais y Dreigiau yn hwyr yn y gêm.