Galw am atal Neil McEvoy rhag rhoi araith

Neil McEvoy
Image caption Mae Neil McEvoy wedi bod yn Aelod Cynulliad ers y llynedd

Mae AC Plaid Cymru wedi cwestiynu a ddylid caniatáu i Neil McEvoy, cynghorydd Caerdydd sydd wedi ei geryddu am fwlio a dangos diffyg parch at aelod o staff yr awdurdod, annerch Cynhadledd wanwyn ei blaid yng Nghasnewydd.

Cafodd y cynghorydd sir a'r AC ei wahardd fel cynghorydd am fis ddydd Gwener.

Dywed Bethan Jenkins AC Gorllewin De Cymru na allai Blaid Cymru gondemnio ar un llaw ac yn "anwybyddu hyn" yn ei rhengoedd ei hunain.

Fe wnaeth Ms Jenkins holi a ddylai Mr McEvoy barhau i annerch y gynhadledd ddydd Sadwrn yn wyneb y dyfarniad.

Dywedodd hi ar wefan Twitter: "Ni ddylai'r arweinyddiaeth adael i rywun siarad diwrnod ar ôl y dyfarniad. Ni allwn gondemnio ymddygiad ac ei anwybyddu yn ein rhengoedd."

Mae Rhianon Passmore, AC Llafur, wedi galw ar Blaid Cymru i wahardd Mr McEvory.

Image copyright Twitter

Roedd tribiwnlys o'r farn bod Mr McEvory wedi torri cod ymddygiad Cyngor Caerdydd drwy fwlio a dangos diffyg parch at aelod o staff yr awdurdod.

Dywedodd y tribiwnlys nad oedd wedi dwyn anfri ar swydd cynghorydd, nac ar enw da Cyngor Caerdydd.

Dywedodd Mr McEvoy bod y broses yn ffars, ond yn ôl cadeirydd Plaid Cymru, Alun Ffred Jones mae'r mater yn un "difrifol iawn" ac y byddai'n cwrdd wyneb yn wyneb gyda Mr McEvoy yr wythnos nesaf.

Image caption Adam Price: Galw am ymgynghoriad ar godi treth incwm

Yn y cyfamser, ar ail ddiwrnod y gynhadledd wanwyn yng Nghasnewydd, bydd llefarydd economi Plaid Cymru, Adam Price yn galw am ymgynghoriad ar godi treth incwm er mwyn talu am wasanaethau cyhoeddus.

Ymhlith y dewisiadau mae codi'r dreth o geiniog yn y bunt er mwyn gwario ar iechyd neu addysg.

Dywedodd Mr Price: "Ry'n ni'n paratoi rhaglen o lywodraethu y byddwn yn ei chyflwyno gerbron pobl Cymru yn Etholiad 2021.

"Fe fyddwn ni'n ymgynghori ar y cwestiwn allweddol o beth ddylen ni wneud gyda'r pwerau treth incwm newydd, a ni fydd y blaid wleidyddol gyntaf yng Nghymru i ystyried yn agored cael ceiniog ychwanegol yn benodol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, sydd yn buddsoddi go iawn yn y newid i system integredig ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol.

"Fe fyddwn ni'n gofyn yr un cwestiwn am addysg hefyd.

"Ceiniog o bob punt yn ychwanegol ar dreth incwm - beth allai hynny ei olygu yn nhermau ein hysgolion?

"Ry'n ni'n gwybod o'r tro diwethaf yr oedd gennym ffigyrau cymharol bod £600 yn llai i bob disgybl yn y sector cynradd yng Nghymru o gymharu â Lloegr.

"Pe byddwn ni fel cymdeithas yn penderfynu ein bod am gynnig system addysg o safon byd, a fyddai awydd allan yna i ddefnyddio'r pwerau treth incwm sydd gennym fel cenedl er mwyn gwneud hynny?"

Straeon perthnasol