Cwestiynu statws Neil McEvoy fel AC

  • 4 Mawrth 2017
Neil McEvoy
Image caption Mae Neil McEvoy wedi bod yn Aelod Cynulliad ers y llynedd

Dylai AC Plaid Cymru, sydd wedi ei wahardd o'i ddyletswyddau fel cynghorydd sir, hefyd gael ei wahardd fel AC, yn ôl dau o ACau Plaid Cymru.

Mae Neil McEvoy wedi cael ei wahardd am fis ar ôl i dribiwnlys ddyfarnu ei fod wedi torri cod ymddygiad Cyngor Caerdydd.

Daw sylwadau'r ddau AC , sydd am i Mr McEvoy gael ei wahardd fel AC tra bod ymchwiliad yn cael ei gynnal, ar ôl i Aelod Cynulliad arall o Blaid Cymru, Bethan Jenkins, gwestiynu a ddylai'r cynghorydd gael yr hawl i annerch cynhadledd wanwyn ei blaid sy'n cael ei chynnal yng Nghasnewydd.

Dywedodd Mr McEvoy wrth BBC Cymru y dylid parchu ei ryddid ef i leisio barn.

Cafodd y cynghorydd sir a'r AC ei wahardd fel cynghorydd am fis ddydd Gwener.

Dywed y ddau AC y dylai Mr McEvoy gael ei wahardd fel AC tra bod ymchwiliad yn cael ei gynnal.

Mae Rhianon Passmore, AC Llafur, hefyd wedi galw ar Blaid Cymru i wahardd Mr McEvoy.

Yn y cyfamser, dywedodd Bethan Jenkins AC Gorllewin De Cymru na allai Blaid Cymru gondemnio ar un llaw ac yn "anwybyddu hyn" yn ei rhengoedd ei hunain.

Fe wnaeth Ms Jenkins holi a ddylai Mr McEvoy barhau i annerch y gynhadledd ddydd Sadwrn yn wyneb y dyfarniad.

Dywedodd hi ar wefan Twitter: "Ni ddylai'r arweinyddiaeth adael i rywun siarad diwrnod ar ôl y dyfarniad. Ni allwn gondemnio ymddygiad ac ei anwybyddu yn ein rhengoedd."

Image copyright Twitter

Roedd tribiwnlys o'r farn bod Mr McEvoy wedi torri cod ymddygiad Cyngor Caerdydd drwy fwlio a dangos diffyg parch at aelod o staff yr awdurdod.

Dywedodd y tribiwnlys nad oedd wedi dwyn anfri ar swydd cynghorydd, nac ar enw da Cyngor Caerdydd.

Dywedodd Mr McEvoy bod y broses yn ffars, ond yn ôl cadeirydd Plaid Cymru, Alun Ffred Jones mae'r mater yn un "difrifol iawn" ac y byddai'n cwrdd wyneb yn wyneb gyda Mr McEvoy yr wythnos nesaf.

Image caption Adam Price: Galw am ymgynghoriad ar godi treth incwm

Yn y cyfamser, ar ail ddiwrnod y gynhadledd wanwyn yng Nghasnewydd, bydd llefarydd economi Plaid Cymru, Adam Price yn galw am ymgynghoriad ar godi treth incwm er mwyn talu am wasanaethau cyhoeddus.

Ymhlith y dewisiadau mae codi'r dreth o geiniog yn y bunt er mwyn gwario ar iechyd neu addysg.

Dywedodd Mr Price: "Ry'n ni'n paratoi rhaglen o lywodraethu y byddwn yn ei chyflwyno gerbron pobl Cymru yn Etholiad 2021.

"Fe fyddwn ni'n ymgynghori ar y cwestiwn allweddol o beth ddylen ni wneud gyda'r pwerau treth incwm newydd, a ni fydd y blaid wleidyddol gyntaf yng Nghymru i ystyried yn agored cael ceiniog ychwanegol yn benodol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, sydd yn buddsoddi go iawn yn y newid i system integredig ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol.

"Fe fyddwn ni'n gofyn yr un cwestiwn am addysg hefyd.

"Ceiniog o bob punt yn ychwanegol ar dreth incwm - beth allai hynny ei olygu yn nhermau ein hysgolion?

"Ry'n ni'n gwybod o'r tro diwethaf yr oedd gennym ffigyrau cymharol bod £600 yn llai i bob disgybl yn y sector cynradd yng Nghymru o gymharu â Lloegr.

"Pe byddwn ni fel cymdeithas yn penderfynu ein bod am gynnig system addysg o safon byd, a fyddai awydd allan yna i ddefnyddio'r pwerau treth incwm sydd gennym fel cenedl er mwyn gwneud hynny?"

Straeon perthnasol