Cynllun i weddnewid canol tre Llanelli

  • 5 Mawrth 2017
Raffles Nightclub in Llanelli Image copyright Google
Image caption Fe waneth clwb Nos Raffels gau yn yr 80au

Fe all hen glwb nos yn Llanelli sy wedi mynd a'i ben iddo gael ei ddymchwel gydag adeilad newydd yn cael ei godi o fewn misoedd fel rhan o gynllun i adnewyddu canol y dref.

Mae cwmni EON Investment eisiau ailddatblygu clwb nos Raffles ar Heol Murray a'i droi yn unedau ar siopau a chartrefi mewn cynllun fydd yn golygu buddsoddiad o £1.8m.

Bydd cais am ganiatâd cynllunio yn mynd o flaen cyngor sir Caerfyrddin cyn hir.

Dywedodd arweinydd y cyngor Emlyn Dole y byddai'r cynlluniau yn rhoi "hwb mawr i ganol tre Llanelli."